Newyddion ac erthyglau
2 Rhagfyr 2024
Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi Cadeirydd newydd Grŵp Strategaeth Cymru
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith heddiw wedi cyhoeddi penodiad Richard Spear fel Cadeirydd ei Grŵp Strategaeth Cymru ac Ymddiriedolydd Dysgu a Gwaith.
29 Tachwedd 2024
A all Papur Gwyn Get Britain Working gael Cymru i weithio?
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Phapur Gwyn Get Britain Working y bu’n sôn amdano ers cryn amser. Mae’r Papur Gwyn yn cyflwyno diwygiadau sylweddol i’r ffordd y bydd cymorth cyflogaeth yn gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn Lloegr yn neilltuol, gyda’r nod o ddod ag iechyd, gwaith a sgiliau ynghyd mewn model cyflenwi sy’n fwy ymatebol yn lleol.
14 Tachwedd 2024
Sut mae Cynllun Restart Serco yn addasu i Ddeallusrwydd Artiffisial a’r Tirlun Digidol i baratoi gweithlu Cymru ar gyfer y dyfodol.
Mewn oes pan fo technoleg a marchnadoedd swyddi yn esblygu’n gyflym iawn, mae sicrhau fod gan unigolion y sgiliau angenrheidiol i ddatblygu yn dod yn hanfodol. Gan fod 26.5% sylweddol o’r boblogaeth oedran gwaith yng Nghymru yn parhau i fod wedi ymddieithrio o’r farchnad lafur, mae’n amlwg fod angen dulliau gweithredu newydd.
14 Tachwedd 2024
Sicrhau gweithlu parod i’r dyfodol mewn peirianneg a gweithgynhyrchu ar gyfer Cymru
Mae gan dreftadaeth ddiwydiannol Cymru hanes hir o ragoriaeth mewn diwydiannau peirianneg a gweithgynhyrchu megis ynni, gweithgynhyrchu gwerth uchel a ffermio sy’n parhau yn hanfodol i’n heconomi cenedlaethol. Mae’n hanfodol deall gofynion unigryw peirianneg a hefyd weithgynhyrchu yng Nghymru ar gyfer creu gweithlu parod i’r dyfodol.
22 Hydref 2024
Tegwch mewn Addysg Drydyddol yng Nghymru: persbectif dysgu oedolion
Gallai cyflwyno’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr) newid dulliau o hybu tegwch mewn addysg drydyddol yng Nghymru yn sylweddol. Mae nifer o resymau dros fod yn weddol optimistaidd ynglŷn â’r corff newydd a sut y gallai drawsnewid y dirwedd ôl-orfodol.
10 Medi 2024
Addysg oedolion: Creu llwybrau at degwch economaidd
Rydym i gyd yn gwybod bod sgiliau a lefelau addysg uwch yn sbardunau allweddol o lwyddiant economaidd, i unigolion ac ar draws ardaloedd daearyddol. Os ydym am i Gymru gael economi lewyrchus lle mae manteision y ffyniant hwnnw’n cael eu dosbarthu’n gyfartal, yna mae addysg a sgiliau yn mynd i fod yn ffocws craidd.
6 Medi 2024
Cyfranogiad mewn dysgu yng Nghymru
Mae gan Lywodraeth Cymru ddyhead i’w groesawu i wneud Cymru’n genedl o ail gyfleoedd; gyda thirwedd polisi sy’n cefnogi dysgu gydol oes ac yn arbennig oedolion sy’n dychwelyd i addysg. Fodd bynnag, mae trosi uchelgais mor ganmoladwy i weithredu ymarferol yn gamp. Rydyn ni i gyd wedi arfer â hawl i addysg i’n hoedolaeth gynnar, ond mae’r un hawl yn llai amlwg wrth i ni heneiddio.
3 Mehefin 2024
Cydweithredu seiliedig ar le: diweddariad o Gasnewydd
Gan adeiladu ar bapurau gwyrdd a gwyn, VocTech Challenge, mae Ufi VocTech Trust (Ufi) a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi datblygu rhaglen o bartneriaethau seiliedig ar le.
14 Mai 2024
146,000 o resymau dros gael cymorth cyflogaeth yn iawn yng Nghymru
Dengys ymchwil newydd ar y bron filiwn o bobl ifanc 16-24 yn y Deyrnas Unedig nad ydynt naill ai mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) fod bron saith mewn deg (69%) yng Nghymru yn economaidd anweithgar – gan olygu nad ydynt yn edrych am waith nac ar gael ar gyfer gwaith ar hyn o bryd.
3 Ionawr 2024
Mae’n amser i bawb ohonom gymryd rhan mewn VET
Am lawer o hanes fodern cafodd addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) eu hystyried yn llwyr yn gyfrifoldeb cyflogwyr. Mewn gwirionedd, mae’n ffenomen eithaf diweddar i lywodraethau ymwneud â VET o gwbl.