Rôl:                                        Cyfarwyddwr Cymru

Cyflog:                                 £55,000 – £70,000 y flwyddyn, yn ddibynnol ar brofiad a lleoliad

Lleoliad:                               Caerdydd / Hyblyg

Contract:                             Rôl amser llawn / Hyblygrwydd neu ran-amser yn bosibl (gweithio hybrid 2 i 3 diwrnod yr wythnos yn y swyddfa)

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W) yn sefydliad polisi, ymchwil a datblygiad annibynnol sy’n ymrwymedig i ddysgu gydol oes, cyflogaeth lawn a chynhwysiant.  Rydym yn canolbwyntio ar y cwestiynau mawr, gan gynnwys sut gallwn ni helpu i wella safonau byw a mynd i’r afael â chostau byw?  Sut gallwn ni helpu mwy o bobl i ddod o hyd i swyddi safonol?  Sut gallwn ni helpu mwy o bobl i ddatblygu eu sgiliau mewn marchnad swyddi sy’n newid?

Mae hon yn rôl weithredol sy’n arwain gwaith y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru, gan adrodd i’r Prif Swyddog Gweithredol a gweithio gyda nhw i bennu a llywio gweledigaeth uchelgeisiol.  Rydym wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bolisïau ac arfer dysgu gydol oes a chyflogaeth ac rydym yn awyddus i barhau i wneud hynny, gan gynyddu ein heffaith ymhellach.

Bydd angen i ddeiliad y rôl arwain y broses o adnabod y blaenoriaethau y dylem fod yn canolbwyntio arnynt yng Nghymru, sicrhau cyllid o wahanol ffynonellau, sicrhau ein bod yn cyflawni gwaith o safon uchel a gwneud yn siŵr bod hyn yn cael effaith, trwy gynnal perthynas gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys gwleidyddion, llunwyr polisïau, y cyfryngau ac ymarferwyr.  Drwy wneud hynny, byddwch yn arwain tîm bach yng Nghymru a gweithio gyda’r sefydliad drwyddo draw.

 

Mae deiliad y swydd hon yn aelod pwysig hefyd o’r Uwch Dîm Rheoli, felly mae sgiliau arweinyddiaeth ac ymrwymiad i gydweithio ar draws y sefydliad yn hollbwysig.  Mae hyn yn debygol o gynnwys arwain mentrau traws-sefydliad yn ogystal â helpu i arwain y sefydliad cyfan a gweithio gyda’n Bwrdd a Grŵp Strategaeth Cymru.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn Fuddsoddwr mewn Pobl (arian) ac mae’n ymfalchïo yn hynny.  Rydym yn ymrwymedig i ddatblygiad staff, gan gynnwys hyfforddiant a chymorth mewnol ac allanol.  Rydym yn cynnwys staff wrth wneud penderfyniadau mewn llawer o wahanol ffyrdd, yn ogystal â nifer o fentrau sy’n cael eu harwain gan staff sy’n canolbwyntio ar iechyd a llesiant yn y gwaith.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn gyflogwr cefnogol a hyblyg.  Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i’n staff, a byddwn yn ystyried trefniadau gweithio rhan-amser a hyblyg, gan gynnwys gweithio gartref.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn angerddol am gydraddoldeb ac amrywiaeth, y rhain yw sylfaen ein gwerthoedd a’n cenhadaeth sefydliadol, ac rydym yn awyddus iawn i dderbyn ceisiadau gan bob grŵp sy’n cael eu tangynrychioli mewn cymdeithas.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cynnig buddiannau hael gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniad o 18% gan y cyflogwr, hawl hael i 25 diwrnod o wyliau (sy’n cynyddu i 27 ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth), yn ogystal ag 8 gŵyl y banc a 6 diwrnod braint (gan gynnwys cau dros y Nadolig) y flwyddyn.  Rydym yn cynnal adolygiad blynyddol o gyflogau, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer cynnydd cyflog a bonws.


Y dyddiad cau yw 5pm ar ddydd Mawrth 18 Hydref 2022. Cynhelir y cyfweliadau cyntaf yn ystod yr wythnos yn dechrau 24 Hydref. Cynhelir y cyfweliadau terfynol yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos yn dechrau 31 Hydref.

I wneud cais, anfonwch eich CV a ffurflen gais i jobs@learningandwork.org.uk.