Neidio i’r prif gynnwys

Kathryn Mackenzie

Aelod annibynnol o’r Pwyllgor Archwilio

Mae Kathryn yn Gyfrifydd Siartredig a dreuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa mewn bancio buddsoddi, gan gyflenwi rhaglenni sylweddol o waith yn arbenigo mewn Trawsnewid a Rheoli Newid. Mae hefyd yn gwirfoddoli fel arweinydd alldeithiau gyda chynllun lleol Dug Caeredin ac mae’n ymroddedig i helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau bywyd pwysig tebyg i hyder, cydnerthedd a gwaith tîm. Mae hefyd yn weithgar yn y sector elusennau amgylcheddol, gan fod â swyddi ymddiriedolydd ac aelod o bwyllgorau archwilio a risg.