Cynllun newydd i hybu cyflogaeth a mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd.

O gymharu gyda chyfartaledd y Deyrnas Unedig o 75.4%, mae’r gyfradd cyflogaeth oedran gweithio yng Nghymru yn 73.4% ar hyn o bryd, gan gadarnhau perfformiad cyson is na chenhedloedd eraill ac mae angen ymyriad wedi ei dargedu i ddatrys hynny.

I fynd i’r afael â’r bwlch parhaus hwn a gostwng anghydraddoldeb mewn cyflogaeth, mae’n rhaid i Gymru osod uchelgais ddewr i sicrhau fod o leiaf dri chwarter yr oedolion oedran gweithio mewn gwaith o fewn y 10 mlynedd nesaf. Bydd angen cynyddu cyflogaeth yng Nghymru gan o leiaf 60,000 o bobl i gyflawni’r targed hwn, drwy weithredu ymroddedig, gyda ffocws ar gefnogi’r rhai sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf, i helpu mwy o bobl i waith a’u cefnogi i aros yn y gwaith.

Beth mae hyn yn ei olygu i Gymru?

Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.

Bydd y newid strategol hwn yn rhoi mwy o reolaeth i Gymru dros ddyluniad a darpariaeth polisïau cyflogaeth effeithlon wedi eu teilwra yn fanwl sy’n defnyddio gwybodaeth leol ac sy’n gydnaws â nodau gostwng anweithgaredd economaidd ar draws y wlad.

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb sylweddol i ddylunio Cynllun Gwaith, Iechyd a sgiliau gyda ffocws. Gyda tua £288 miliwn wedi ei ddyrannu i gymorth cyflogaeth (2024-2025) a £47 miliwn y flwyddyn ychwanegol posibl o ddatganoli (seiliedig ar ddadansoddiad Dysgu a Gwaith), mae cyfle hollbwysig i alinio’r adnoddau sylweddol hwn a gostwng anweithgarwch economaidd.

Mae’r prosiect yn cyflwyno dadansoddiad amserol i greu dealltwriaeth ddyfnach o’r grwpiau y mae anghydraddoldeb yn y farchnad lafur yn taro galetaf arnynt – sef menywod, pobl anabl, rhai gyda chyflyrau iechyd hirdymor a grwpiau lleiafrif ethnig – ac i ddatblygu argymhellion polisi clir y medrir eu rhoi ar waith i sicrhau marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru.

Anweithgaredd economaidd yng Nghymru

Canfyddiadau allweddol

Mae dadansoddiad o ddata Cyfrifiad 2021 a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn dangos heriau sylweddol croestoriadol yn y farchnad lafur ledled Cymru:

  • Cyfraddau uwch: Mae Cymru yn profi cyfraddau uwch o anweithgarwch economaidd (15.8%) o gymharu â Lloegr (14.2%). Anabledd ac iechyd gwael yw prif sbardun y gwahaniaeth hwn, gan gyfrif am 6.9% o anweithgarwch y boblogaeth oedran gweithio.
  • Bwlch rhwng y rhywiau: Mae Cymru yn sylweddol fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar na dynion (ar gyfradd o 18.8% o gymharu â 12.7%), a gaiff ei yrru i raddau helaeth gan fenywod yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am ofalu am gartref a theulu.
  • Lleiafrifoedd ethnig: Mae anweithgarwch economaidd yn fwy tebygol o effeithio ar y rhai o grwpiau lleiafrif ethnig (18.0%) o gymharu â rhai o gefndiroedd Gwyn (15.7%).
  • Gwahaniaethau rhanbarthol: Mae deilliannau cyflogaeth yn amrywio’n rhanbarthol. Canolbarth Cymru sydd â’r bylchau cyflogaeth mwyaf ar gyfer pobl anabl ac mae un ym mhob wyth o bobl oedran gweithio ym Mlaenau Gwent yn derbyn Credyd Cynhwysol iechyd, ddwywaith y gyfran yng Ngwynedd.

Crynodeb argymhellion

I gyflawni’r targed cyflogaeth cenedlaethol, mae Dysgu a Gwaith yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi cadarn ar gyfer y farchnad lafur gan ganolbwyntio ar waith, iechyd a sgiliau. Mae’r argymhellion allweddol ar gyfer gweithredu penderfynol yn cynnwys:

Adroddiad terfynol: Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru

Lawrlwythwch yr adroddiad