Digwyddiadau
Rydym yn cynnig digwyddiadau hanfodol a gynlluniwyd i gefnogi datblygu proffesiynol a rhwydweithio ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y sector cyflogaeth a sgiliau. I noddi neu ddod yn bartner i ni, cysylltwch â ni.
Gorffennol
Diwrnod Datblygu ESOL
Dydd Iau 16 Ebrill 2026
Caerdydd
Daeth ein Diwrnod Datblygu ESOL ag ymarferwyr, arweinwyr a dysgwyr ynghyd. Roeddem wrth ein bodd i groesawu James Owen, Prif Weithredwr Medr, a agorodd y digwyddiad.
Gorffennol
Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru – Lansio Adroddiad
Dydd Mercher 26 Tachwedd 2025
Y Pierhead, Bae Caerdydd
Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru – Lansio Adroddiad
Gorffennol
Ailsgilio ar gyfer Adnewyddu: Gwersi o Gymru ac Appalachia
Dydd Mawrth 16 Medi 2025
Ar-lein
Daeth y weminar hon â safbwyntiau o Gymru ac America ynghyd i ymchwilio sut y gall addysg oedolion helpu pobl i addasu, ail-sgilio ac adeiladu cymunedau ffyniannus mewn cyfnod o drawsnewid.
Gorffennol
Lansio Fframwaith Dysgu fel Teulu
Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2025
Ar-lein
Mae’r Model Dysgu fel Teulu yn fodel hyblyg a gynlluniwyd i helpu darparwyr addysg oedolion ac ysgolion i gynnwys dysgu fel teulu yn eu rhaglenni. Ei nod yw hybu dysgu fel teulu fel llwybr i ddysgu gydol oes, datblygu sgiliau, cyflogadwyedd a chyfleoedd swydd ar gyfer oedolion a phlant.
Gorffennol
Darlith Goffa Raymond Williams
3 Mar 2015 - 11 Nov 2025
Ar-lein
Mae darlith Raymond Williams yn gyfle pwysig i adlewyrchu ar waith a bywyd Raymond Williams, yn arbennig yng nghyd-destun addysg oedolion a’i photensial i drawsnewid. Mae’r ddarlith yn denu cynulleidfa fawr a gwybodus o bobl broffesiynol o bob rhan o gymdeithas ddinesig yng Nghymru a thu hwnt. Caiff ei rhedeg fel partneriaeth rhwng y Sefydliad Dysgu a Gwaith a’r Brifysgol Agored yng Nghymru ar hyn o bryd.
Gorffennol
Darlith Goffa Flynyddol Raymond Williams: ‘Chwalu drwy’r llinell tiodi’
Dydd Mercher 11 Mehefin 2025
Cardiff
Mae darlith Raymond Williams yn gyfle pwysig I fyfyrio ar waith a bywyd Raymond Williams, yn arbennig yng nghyd-destun addysg oedolion a’i botensial trawsnewidiol. Mae’r ddarlith yn denu cynulleidfa helaeth a gwybodus o weithwyr proffesiynol o bob rhan o gymdeithas ddinesig yng Nghymru a thu hwnt.
Gorffennol
Digwyddiad lledaenu prosiect Dysgwyr fel Llysgenhadon Taith
Dydd Mercher 14 Mai 2025
Cardiff
Mae Rhaglen Dysgwyr fel Llysgenhadon Taith yn bartneriaeth gyda chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Partneriaeth Addysg Oedolion Castell-nedd Port Talbot, Addysg Oedolion Cymru, Dysgu Oedolion yn y Gymuned Sir Gaerfyrddin, Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Conwy a Sir Ddinbych, Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gwynedd a Môn, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Gwent a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith.
Gorffennol
Diwrnod Datblygu ESOL
Dydd Mawrth 11 Mawrth 2025
Swansea
Roedd y diwrnod yn cynnwys mewnwelediadau gwerthfawr i ymchwil, ynghyd â sesiynau rhwydweithio a sesiynau ymarferol wedi’u cynllunio ar gyfer tiwtoriaid, rheolwyr a gwirfoddolwyr sy’n gweithio o fewn ESOL.
Gorffennol
Confensiwn Cyflogaeth a Sgiliau Cymru – Symud ymlaen mewn cyfnod o newid
Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024
Cardiff
Roedd Ffocws confensiwn ar effaith newidiadau byd-eang tebyg i symud i economi carbon isel, natur darfol AI ac awtomeiddio a’r hyn mae poblogaeth sy’n heneiddio yn ei olygu ar gyfer gweithlu Cymru.
Gorffennol
Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu 2023: Cymru
Dydd Iau 12 Medi 2024
Ar-lein
Mae’r arolwg hwn yn rhoi cipolwg unigryw ar faint o oedolion sy’n cymryd rhan mewn dysgu bob blwyddyn, y manteision y mae pobl yn eu gweld o ddysgu a’r rhesymau pam fod rhai oedolion yn dweud nad ydynt wedi cymryd rhan mewn dysgu.