Yn ystod 2023 a 2024, mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ystod o bartneriaid eraill ar brosiect cyffrous i dreialu Cwricwlwm Dinasyddion i Gymru. Mae hyn yn dilyn ymrwymiad cyhoeddus i Genedl Ail Gyfle a wnaed gan y Gweinidog Addysg Jeremy Miles AS, yng Nghynhadledd Addysg Oedolion, 2022.

Mae’r Cwricwlwm Dinasyddion yn ddull arloesol, cyfannol o sicrhau bod gan bobl y galluoedd rhuglder Cymraeg a Saesneg, sgiliau mathemateg, digidol, dinesig, iechyd ac ariannol sydd eu hangen arnynt. Mae’n ffordd gyfannol o gynllunio a chyflwyno addysg oedolion, gyda ffocws ar ystod clir o alluoedd allweddol sydd eu hangen i fyw bywydau egnïol, boddhaus a gwerth chweil.

Y canlyniad bwriadedig o’r cynlluniau peilot yw:

  • Datblygu sylfaen o dystiolaeth i gefnogi fframwaith ar gyfer Cwricwlwm Dinasyddion Cymreig, sy’n gysylltiedig â phedwar diben Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyn yn helpu i sicrhau mwy o gydlyniad rhwng darpariaeth addysg cyn-16 ac addysg oedolion, a chynnig addysg gytbwys i oedolion yng Nghymru sy’n helpu i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i fyw bywydau iach, boddhaus a bodlon.
  • Datblygu a gwreiddio arferion addysgegol cyfranogol effeithiol, a lledaenu arfer gorau ar draws y gweithlu dysgu oedolion.

Er mai un o egwyddorion sylfaenol y Cwricwlwm Dinasyddion yw cyd-lunio â dysgwyr, bydd y cynlluniau peilot hefyd yn cael eu harwain gan bedwar diben Cwricwlwm i Gymru. Gall y ddarpariaeth helpu i fodloni un, neu fwy ohonynt. Nodir y pedwar diben isod:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu hoes.
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
  • Dinasyddion moesegol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd.
  • Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae’r peilot yn cynnwys 6 rhaglen sy’n cael eu harwain gan bartneriaid mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru:

The project will employ a multi-faceted methodology, including stakeholder engagement, desk reviews, data analysis, and lived experience groups. By bringing together a diverse network of stakeholders, the project aims to create a robust evidence base to inform policy recommendations.

  • Dinasyddiaeth fyd-eang – Bydd Addysg Oedolion Cymru (ALW) a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cydweithio i ddatblygu rhaglen beilot ‘Dysgu Byd-eang’ ar gyfer y sector ôl-16.
  • Ysgolion Bro – Bydd Coleg Caerdydd a’r Fro ac Ysgol Uwchradd Dwyrain Caerdydd yn arwain cynllun peilot i helpu i brofi gwerth ymgysylltu â’r gymuned ysgol ehangach mewn addysg oedolion.
  • Iechyd a Lles – Mae Addysg Oedolion Cymru (ALW) wedi nodi cyfle i ddatblygu rhaglen beilot Iechyd a Lles wedi’i harwain, a’i chyd-gynllunio gan ddysgwyr.
  • Cefnogi’r gweithlu ESOL – Fel rhan o ddatblygiad Cwricwlwm Dinasyddion, bydd tîm o addysgwyr dan arweiniad Canolfan Oasis a Phrifysgol De Cymru yn ymchwilio i ddulliau creadigol a chyfranogol o addysg iaith, gan ganolbwyntio ar yr ystafell ddosbarth ESOL ac anghenion penodol dysgwyr sy’n ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
  • Seiliedig ar le – Bydd Prifysgol Agored Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chartrefi Cymoedd Merthyr (MVH) yn cyflwyno prosiect peilot sy’n cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru o ddatblygu Cenedl Ail Gyfle; lle nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu.
  • Anweithgarwch economaidd pobl dros 50 oed: Diogelu eich dyfodol – Wedi’i arwain gan Bartneriaeth Dysgu Oedolion Gogledd-ddwyrain Cymru, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gyd-greu cwricwlwm dinasyddion a fydd yn ymgysylltu ag oedolion o’r garfan leol, ac yn creu rhaglen gwricwlwm a arweinir yn lleol. Bydd y rhaglen yn ymateb i’r anghenion a nodwyd, ac yn diwallu’r anghenion economaidd a blaenoriaethau lleol a rhanbarthol.

14 Ionawr 2026

ESOL Fforwm

Mae ein gwaith yn cynnwys adeiladu’r dystiolaeth o botensial Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) i gael effeithiau cadarnhaol ar iechyd, cyflogaeth ac addysg pobl a’u cyfranogiad mewn cymunedau.

Darllen mwy

18 Medi 2023

Cwricwlwm Dinasyddion

Yn ystod 2023 a 2024, mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ystod o bartneriaid eraill ar brosiect cyffrous i dreialu Cwricwlwm Dinasyddion i Gymru. Mae hyn yn dilyn ymrwymiad cyhoeddus i Genedl Ail Gyfle a wnaed gan y Gweinidog Addysg Jeremy Miles AS, yng Nghynhadledd Addysg Oedolion, 2022.

Darllen mwy

18 Medi 2023

Addysg Iaith a Chroeso Cynnes Cymreig

Pa un yw’r ffordd orau i addysgu iaith i newydd-ddyfodiaid yng Nghymru? A sut yw’r ffordd orau i gefnogi athrawon i weithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a all fod yn dysgu iaith tra’u bod yn dioddef o drawma ac yn gorfod wynebu’r ‘amgylchedd gwrthwynebus’[1] a gafodd ei greu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig? Dyma’r cwestiynau yr oeddem eisiau eu hymchwilio gyda’n prosiect Cwricwlwm Dinasyddion, partneriaeth rhwng Oasis, Prifysgol De Cymru ac Addysg Oedolion Cymru.

Darllen mwy

21 Chwefror 2015

ESOL yng Nghymru: Dysgu oddi wrth y Sector Gwirfoddol

Roedd y methodoleg a ddefnyddiwyd yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth a chasglu data helaeth trwy gyfrwng cyfweliadau, grwpiau ffocws a holiadur. Cyflwynir dadansoddiad o’r data hwn yng nghyd-destun polisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n rhoi ystyriaeth neilltuol i drefniadau cynllunio a chyllido yng Nghymru.

Darllen mwy

28 Mehefin 2012

Deunyddiau dinasyddiaeth ar gyfer dysgwyr ESOL yng Nghymru

Mae’r gweithgareddau dysgu iaith hyn yn hyblyg ac yn canolbwyntio ar y dysgwyr – fel y gall dysgwyr ddewis a chymysgu o’r adrannau sydd fwyaf o ddiddordeb iddynt.

Darllen mwy