Mae dysgu gydol oes yn newid bywydau. Ysbrydolwch ni a rhannu eich stori.
Mae enwebiadau wedi agor gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026
Caiff y gwobrau blynyddol eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a maent yn dathlu llwyddiannau eithriadol unigolion a phrosiectau cymunedol yng Nghymru sy’n dangos angerdd, ymroddiad ac egni rhagorol i’w gwella eu hunain a’u cymuned drwy ddysgu gydol oes. Bydd y seremoni wobrwyo yn uchafbwynt yn ymgyrch flynyddol yr Wythnos Addysg Oedolion.
Bydd enwebiadau llwyddiannus yn dangos yn glir fuddion dysgu gydol oes ar gyfer unigolion a chymunedau a gwerth buddsoddi mewn cyfleoedd sy’n newid bywydau, gan roi enghreifftiau grymus ar gyfer dysgwyr y dyfodol ledled Cymru.
Gofynnir i chi gyflwyno eich enwebiadau erbyn y dyddiad cau: dydd Gwener 17 Ebrill 2026
Categorïau Gwobrau 2026
- Gwobr Sgiliau Gwaith
- Gwobr Oedolyn Ifanc
- Gwobr Newid Bywyd
- Gwobr Sgiliau Bywyd Hanfodol
- Gwobr Dysgu ar gyfer Iechyd Gwell
- Gwobr Heneiddio’n Dda
- Gwobr Siaradwr Newydd
- Gwobr Rhannu Dyfodol
- Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol
- Gwobr Llais Dysgwyr
Meini prawf Gwobrau Ysbrydoli!:
- Mae’n rhad ac am ddim i enwebu ac mae ar agor i unigolion a sefydliadau sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
- Gall dysgu fod ag achrediad neu beidio a gall ddigwydd mewn amrywiaeth o leoliadau, yn cynnwys gweithleoedd, sefydliadau addysg uwch, colegau addysg bellach, llwyfannau ar-lein, yn y cartref ac mewn cymunedau lleol.
- Mae Dysgu a Gwaith yn ymroddedig i gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth a gwella mynediad i addysg ar gyfer pob grŵp. Croesawn enwebiadau ar gyfer pobl o bob cefndir a gyda phob math gwahanol o brofiadau bywyd a galluoedd.
- Gall unrhyw un 16 oed neu drosodd enwebu/cael eu henwebu ar gyfer Gwobr Ysbrydoli!, gweler y canllawiau ar bob categori.
- Rhaid i’r sawl a gaiff eu henwebu ar gyfer categorïau unigol gael eu henwebu gan berson arall – gallai hyn fod yn gyfaill, mentor, cydweithiwr, aelod o deulu neu gyflogwr sy’n adnabod y sawl a enwebir yn dda.
- Dylai enwebiadau ar gyfer categorïau prosiect gael eu hysgrifennu gan dîm neu arweinydd prosiect a’i gymeradwyo gan uwch reolwr neu ganolwr sy’n adnabod y ddarpariaeth yn dda. Rydym hefyd yn croesawu datganiadau gan ddysgwyr a rhai sy’n gweithio yn y prosiect i gefnogi’r enwebiad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Wobrau Ysbrydoli! neu os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â inspire@learningandwork.org.uk.
Ewch ati i enwebu
Lawrlwythwch ein Canllawiau a’r Ffurflen Enwebu
Categoriau a chanllawiau Ffurflen enwebuFfurflen enwebu ar-lein
Os yw’n well gennych, gallwch lenwi ein ffurflen enwebu ar-lein – gallwch gadw eich gwaith ar hyn o bryd yn defnyddio’r botwm cadw ar waelod pob tudalen o’r ffurflen ar-lein.
Ewch i ffurflen ar-leinYdych chi eisiau gwneud i’ch enwebiad sefyll allan?
I’ch helpu i ddangos effaith lawn taith dysgwr neu lwyddiant prosiect, rydym wedi cyhoeddi canllawiau NEWYDD sy’n cynnig camau ymarferol ar sut i fynd ati gyda’r broses enwebu a llunio enwebiad sy’n sefyll allan i sicrhau fod stori y sawl a enwebwch yn gwirioneddol ddisgleirio.
Mynd i’r ddogfen canllawiau newydd
Cwrdd ag enillwyr gwobrau 2025
Cewch eich ysbrydoli gan eu teithiau wrth iddynt rannu sut mae addysg wedi newid eu bywydau, cynyddu eu hyder ac agor drysau i gyfleoedd newydd.
Ewch i blatfform Wythnos Addysg Oedolion
Darganfod mwyAriennir gan
