Adroddiadau a phapurau gwybodaeth
17 Rhagfyr 2025
Cymhelliannau, Dyheadau a Rhwystrau Dysgu Oedolion
This research was in partnership with the Learning and Work Institute Cymru to gain greater insight into adult learner experiences of further and higher education in Wales as this is largely a missing voice from the recent literature.
26 Tachwedd 2025
Adroddiad terfynol: Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru
Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.
1 Awst 2024
Arolwg CyfranogiadOedolion mewn Dysgu 2023: Cymru
Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae’r arolwg yn dod o hyd i anghyfartaledd amlwg a pharhaol, gyda rhai grwpiau yn fwy tebygol o ddysgu yn oedolion nag eraill. Dynododd arolwg 2023 hefyd y gall y gwahaniaethau rhwng rhanbarthau daearyddol fod yn cynyddu. Gan fod polisïau a chyllido polisïau dysgu yn cael eu datganoli, mae’n bwysig deall patrymau cyfranogi yn well ar lefel genedlaethol a rhanbarthol.
3 Gorffennaf 2024
Cynllun peilot Dyfodol Newydd Cymru
Nod ein rhaglen flaenllaw Dyfodol Newydd oedd cefnogi gweithwyr oedd yn dymuno newid gyrfa ac ail-sgilio fel canlyniad I bandemig Covid-19. Ariannwyd y gwaith gan Gronfa Cymorth Covid-19.
21 Chwefror 2024
Pa ffordd yn awr i gymorth cyflogaeth yng Nghymru?
Mae ymchwil newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn archwilio dyfodol polisi cymorth cyflogaeth yng Nghymru ac yn dynodi meysydd lle gellir gwella’r system bresennol i roi mwy o gymorth i bobl ganfod gwaith ansawdd da.
3 Ionawr 2024
Adolygiad o’r System Sgiliau yng Nghymru
Cafodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2023 i gynnal adolygiad o’r system sgiliau yng Nghymru. Fe’i cynlluniwyd i ymchwilio gwahanol weledigaethau ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) yng Ng Darllen mwy
10 Gorffennaf 2023
Gwerthusiad o gynllun treialu Anogwr Cyflogaeth Gefnogol
Nod cyffredinol y cynllun treialu yw gwella deilliannau i bobl ifanc gydag anableddau/anawsterau dysgu cymedrol i ddifrifol a/neu awtistiaeth, trwy gynyddu’r nifer sy’n symud ymlaen i swyddi cyflogedig neu brentisiaethau.
14 Ebrill 2023
Gwerthusiad o’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith
Ym mis Mehefin 2022 cafodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith eu penodi gan Lywodraeth Cymru i werthuso cyfnod diweddaraf eu Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith. Dechreuodd y gwerthusiad ym mis Gorffennaf 2022 a chafodd ei gwblhau ym mis Hydref 2022. Mae’n dilyn gwerthusiad dechreuol o’r gwasanaeth a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2019. Yr amcanion oedd trechu tlodi ac allgauedd cymdeithasol drwy gyflogaeth gynaliadwy mewn rhannau o Ogledd a De Cymru.
25 Gorffennaf 2022
Dysgu Oedolion yn y Gymuned Adroddiad Effaith 2022
Mae gennym uchelgais i greu dysgwyr gydol oes, i weld ein dysgwyr yn datblygu ond hefyd i’w gweld yn dod yn fodelau rôl o fewn eu teuluoedd, i fod yn arweinwyr yn eu cymunedau, i gael y dulliau i fod yn hapus ac iachach yn eu bywydau eu hunain.
25 Hydref 2021
Diwygio’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi adborth ar y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (y Fframwaith) a gafwyd mewn gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ieuenctid a gynhaliwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar ran Llywodraeth Cymru.