Persbectif Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru
Cynhaliwyd yr ymchwil yma mewn partneriaeth gyda Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru i gael mwy o ddirnadaeth o brofiadau oedolion sy’n ddysgwyr mewn addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru gan fod hyn i raddau helaeth yn llais coll mewn llenyddiaeth ddiweddar. Mae angen i Addysg Uwch ddatblygu ymagwedd fwy cynhwysol at ehangu mynediad yng Nghymru nad yw’n eithrio dysgwyr anrhaddodiadol o blaid y carfannau mwy proffidiol o fyfyrwyr iau (Evans, et al, 2017). Aeth yr ymchwil yma ati i ymchwilio a deall cymhellion, uchelgais a rhwystrau addysg uwch o fewn cyd-destun addysg bellach ac addysg uwch.
Defnyddiwyd dull newydd o gasglu a dadansoddi data ansoddol o’r enw’r Ymagwedd Naratif Darluniadol (‘Pictorial Narrative Approach’) (Lapum et al, 2015) a’i gefnogi gan arolwg cenedlaethol byr yn rhoi data meintiol o dros 200 o oedolion sy’n ddysgwyr yng Nghymru. Roedd hyn yn galluogi aelodau mewn grwpiau ffocws i leisio eu hymateb tra’n edrych ar y ddadansoddydd yn darlunio ei dehongliad o’u safbwyntiau.
Ymchwiliodd y grwpiau ffocws naw maes o ddiddordeb oedd yn amlwg o fewn y llenyddiaeth ac fe wnaeth hyn greu themâu allweddol a gafodd eu cefnogi ymhellach gan ganfyddiadau’r arolwg.
Cymhellion i ddysgu
Y cymhellion oedd yn achosi mwyaf o angerdd a phwysigrwydd oedd y rhesymau mwy cynhenid tebyg i deulu a ffrindiau ac yn arbennig roi modelau rôl cadarnhaol i berthnasau iau a’u plant eu hunain. Roedd hefyd y cysyniad o ddatblygu mwy o hunan-barch, hunan-werth, cyrraedd eu potensial llawn a rhoi cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol neu gynnydd o fewn cyflogaeth. Felly roedd addysg uwch yn cael ei weld fel bod yn ‘agor drysau ar gyfer dyfodol mwy cadarn’ ac yn ffordd o ‘gael fy hunaniaeth yn ôl’ ac roedd hefyd yn gymhelliant gwirioneddol i gael gwybodaeth a sgiliau newydd a chynyddu cyfleoedd cymdeithasol.