Eich gwahoddiad i ymuno â’r Wythnos Addysg Oedolion rhwng 21 – 27 Medi 2026, gyda hyrwyddo drwy gydol y mis.

Mae gan yr Wythnos Addysg Oedolion ran bwysig wrth hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer unigolion, teuluoedd a chymunedau i ddysgu sgiliau newydd, cefnogi iechyd a llesiant, dechrau ar hobi newydd neu edrych am gyfleoedd newydd i ailhyfforddi a gwneud dechrau newydd.

Cyflawnir hyn drwy gydweithio gyda phartneriaid yr ymgyrch ar draws y sector i hyrwyddo digwyddiadau, cyrsiau a sesiynau blasu ar-lein, byw ac wyneb yn wyneb a dyddiau agored, adnoddau a chyngor ac arweiniad gyrfaoedd.

Bydd cyfeiriadau at weithgaredd wedi ei gydlynu i’w gweld ar ein gwefan Wythnos Addysg Oedolion a gwefan Cymru’’n Gweithio drwy gydol mis Medi gyda ffocws ar ddigwyddiadau arbennig a gynhelir yn ystod wythnos yr ymgyrch.

Ymunwch â’n rhwydwaith partneriaid:

Gyda’n gilydd gallwn greu sylw a momentwm cynyddol ar gyfer dysgu gydol oes yng Nghymru ac ysbrydoli mwy o oedolion i symud ymlaen i fyw bywydau gwell a mwy bodlon yn hyderus.

Rydym eisiau gweld cyfeirio effeithiol a chyfleoedd fydd yn ysbrydoli pobl i gynyddu eu hyder a’u llesiant, i ffynnu yn eu gyrfaoedd a datblygu cariad at ddysgu gydol oes.

Gweithiwch gyda ni i hyrwyddo eich darpariaeth a chysylltu gyda chynulleidfaoedd newydd a phresennol drwy gynnig cyfleoedd i ddysgu a chyfeirio’n well at wybodaeth ac arweiniad.

Sut i gymryd rhan

  • Cyflwyno cyfleoedd dysgu ar-lein neu wyneb yn wyneb rhad ac am ddim i oedolion drwy gydol mis Medi.
  • Rhannu gwybodaeth ar y cyfleoedd a llwybrau presennol neu sydd ar y gweill i oedolion ailhyfforddi a chynyddu eu sgiliau.
  • Rhannu eich ymchwil, ysgrifennu erthygl neu brofi syniadau newydd i godi proffil addysg oedolion yng Nghymru.
  • Dangos grym dysgu gydol oes drwy straeon am lwyddiant oedolion sy’n ddysgwyr, prosiectau arloesol a sefydliadau sy’n hyrwyddo dysgu gydol oes.
  • Ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cenedlaethol. Bod yn rhan o’r dathliad a’r sgwrs genedlaethol am ddysgu gydol oes. Tagiwch ni yn eich holl weithgareddau yn defnyddio hashnod #paidstopiodysgu #wythnosaddysgoedolion.

Gall sefydliadau hyrwyddo eu cyfleoedd dysgu drwy restru cynnwys am ddim ar gyfer mis Medi ac Wythnos swyddogol Addysgwyr Oedolion (21–27 Medi 2026):

  • Cyrsiau Byr a Chyflwyniadol
  • Sesiynau Blasu
  • Digwyddiadau Cymunedol
  • Dyddiau Agored
  • Gweminarau a Chynadleddau
  • Dolenni i Gyngor a Gwybodaeth

Sut i gofrestru eich diddordeb

Cyn dechrau arni, llenwch ein ffurflen gofrestru fer i adael i ni wybod eich bod yn cymryd rhan. P’un ai ydych yn newydd i’r ymgyrch neu wedi ymuno â ni o’r blaen, mae cofrestru yn sicrhau y gallwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn gyson yn y cyfnod cyn yr Wythnos Addysg Oedolion.

Llenwch y ffurflen gofrestru


Beth nesaf?

Unwaith y byddwch wedi llenwi’r ffurflen, dilynwch y camau isod:

  • Ewch i’r Dudalen Darparwyr ar ein platfform ymgyrch  i wirio fod eich sefydliad/partneriaeth wedi cofrestru fel partner.

  • Os yw eich sefydliad wedi ei restru, mewngofnodwch i’ch cyfrif  i ychwanegu eich digwyddiadau dysgu, cyrsiau neu adnoddau. I barhau i gydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg, mae’n rhaid rhoi pob rhestriad yn ddwyieithog. Gofynnir i chi roi geiriad Cymraeg a Saesneg yn y meysydd disgrifiad pan fyddwch yn lanlwtho cynnwys.

Os na fedrwch ganfod eich manylion mewngofnodi neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich cyfrif, anfonwch e-bost at  alwevents@learningandwork.org.uk i ofyn am gymorth.

Os yw eich sefydliad yn newydd i’r ymgyrch:

Bydd aelod o dîm y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn adolygu eich ffurflen gofrestru ac yn cysylltu wedyn drwy e-bost gyda manylion eich cyfrif newydd a chanllawiau ar sut i ddechrau arni. Unwaith y bydd eich cyfrif yn barod, bydd gennych fynediad llawn i’ch proffil darparydd a lanlwytho gweithgareddau. Mae hyn yn cynnwys eich cyfraniadau i ymgyrch yr Wythnos Addysg Oedolion ac unrhyw gyfleoedd eraill y dymunwch eu rhestru drwy gydol y flwyddyn.

Cronfa Arloesedd Wythnos Addysg Oedolion – Ar agor ar gyfer ceisiadau

Mae’r Gronfa Arloesedd yn cefnogi darparwyr yng Nghymru i gyflwyno digwyddiadau dysgu a gweithgareddau hyrwyddo diddorol yn ystod wythnos yr ymgyrch (21 – 27 Medi 2026) a drwy gydol mis Medi.
Mae ceisiadau’n cau 3 Gorffennaf 2026.
Nodyn: Nid oes angen i chi lenwi’r ffurflen gofrestru uchod os ydych yn gwneud cais i’r Gronfa Arloesedd. Bydd eich cais yn gweithredu fel cofrestriad ar eich cyfer.

Lawrlwytho Ffurflen Gais a Chanllawiau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgyrch, cysylltwch â: alwevents@learningandwork.org.uk.

Neges Wythnos Addysgwyr Oedolion Michael Sheen

Llwyfan Wythnos Addysg Oedolion

Ewch i lwyfan yr Wythnos Addysg Oedolion i gael mwy o wybodaeth – dod o hyd i ddigwyddiadau ar-lein, cyrsiau ac adnoddau, straeon i ysbrydoli, podlediadau, blogiau, gwybodaeth i ddarparwyr a mwy.

Llwyfan Wythnos Addysg Oedolion

Ariennir gan