Cafodd gwasanaeth Aelod o’r Senedd a chyn-weinidog sy’n ymddeol yn yr etholiad ar 7 Mai ei gydnabod gyda gwobr am ei gyfraniad eithriadol i ddysgu gydol oes.

Cyflwynwyd y wobr i John Griffiths, AS Llafur Dwyrain Casnewydd, yn seremoni Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026 a gynhaliwyd yn y Senedd ym Mae Caerdydd nos Fawrth, digwyddiad a noddwyd ganddo.

Mae wedi gwasanaethu’r Senedd ers ei ffurfio yn 1999 y cynnwys mewn gwahanol swyddi fel gweinidog ac mae’n gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Addysg Bellach a Sgiliau.

Caiff Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a maent yn cydnabod tiwtoriaid eithriadol sy’n mynd yr ail filltir i rymuso oedolion sy’n ddysgwyr, trawsnewid bywydau a chryfhau cymunedau.

Cafodd chwe tiwtor eithriadol o bob rhan o Gymru eu cydnabod yn y seremoni wobrwyo. Caiff tiwtoriaid eu hanrhydeddu am eu gwaith ar draws Addysg Uwch, Addysg Bellach, gweithleoedd, Addysg Gymunedol a Cymraeg i Oedolion.

Dywedodd Mr Griffiths: “Roedd yn wych cael y wobr annisgwyl yma gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith ac i fod yn rhan o’r noswaith gyda’r tiwtoriaid, a gafodd hefyd eu cydnabod.

“Mae’n golygu mwy fyth oherwydd fy mhrofiadau fy hun o ddychwelyd i addysg bellach ac addysg uwch fel myfyriwr aeddfed, yn gyntaf yn yr hyn oedd bryd hynny yn Goleg Nash yng Nghasnewydd.

“Wrth i fy nghyfnod yn y Senedd dynnu at y terfyn, rwyf wirioneddol wedi gwerthfawrogi’r gwaith a wnes gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith a’r sector addysg oedolion yn ehangach. “Mae Cymru yn genedl falch o ddysgu gydol oes a gobeithiaf y bydd y seithfed Senedd a Llywodraeth nesaf Cymru yn parhau â’r ymroddiad i addysg ail gyfle o’r radd flaenaf.”
John Griffiths, AS

Canmolodd diwtoriaid am helpu dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau maent eu hangen i sicrhau swyddi safon uchel i gefnogi economi Cymru a chydlyniaeth y gymuned.

“Mae Cymru yn dymuno bod yn genedl dysgu gydol oes ac mae ei thiwtoriaid, dysgwyr a sefydliadau gwych yn gwneud hynny’n bosibl,” ychwanegodd. Mae’r gwobrau hyn mor bwysig wrth gydnabod yr holl safon, gwerth a llwyddiannau.”

Diolchodd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith, i Mr Griffiths am ei gefnogaeth faith yn hyrwyddo addysg oedolion.

“Ar hyd ei yrfa yng ngwleidyddiaeth Cymru mae John bob amser wedi defnyddio ei brofiadau personol ei hun o addysg oedolion i hyrwyddo dysgu gydol oes ac eirioli dros gyfleoedd addysgol i bawb,” meddai. “Bu’r Sefydliad Dysgu a Gwaith a llawer o gyrff eraill ar draws y trydydd sector yn ogystal â dysgwyr a thiwtoriaid ar draws Cymru ar eu hennill oherwydd ei gefnogaeth a’i gyfraniad cadarnhaol.”
Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad Dysgu a Gwaith

“Ar hyd ei yrfa yng ngwleidyddiaeth Cymru mae John bob amser wedi defnyddio ei brofiadau personol ei hun o addysg oedolion i hyrwyddo dysgu gydol oes ac eirioli dros gyfleoedd addysgol i bawb,” meddai.

“Bu’r Sefydliad Dysgu a Gwaith a llawer o gyrff eraill ar draws y trydydd sector yn ogystal â dysgwyr a thiwtoriaid ar draws Cymru ar eu hennill oherwydd ei gefnogaeth a’i gyfraniad cadarnhaol.”

Wedi ei eni yng Nghasnewydd, mae gan Mr Griffiths radd yn y gyfraith a diploma mewn seicoleg gan Brifysgol Cymru, Caerdydd. Bu’n gweithio fel darlithydd mewn addysg bellach ac addysg uwch cyn dod yn gyfreithiwr, cyn ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999.

Gwasanaethodd yn flaenorol fel Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, Gweinidog Adnoddau Naturiol a Gweinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn Llywodraeth Cymru.

Cyn hynny, gwasanaethodd fel Cwnsel Cyffredinol, Dirprwy Weinidog Addysg, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dirprwy Weinidog Datblygu Economaidd.

Cysylltwch â’n swyddfa wasg

Cwrdd ag enillwyr Gwobr Tiwtoriaid Ysbrydoli! 2026

Lawrlwythwch

23 Mawrth 2026

Gwobr am gyfraniad eithriadol i ddysgu gydol oes i AS sy’n ymddeol

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

18 Mawrth 2026

Cyfnod heriol? Amser am gwricwlwm heriol.

Mae addysg ôl-16 yng Nghymru yn mynd drwy gyfnod o arloesi a newid.

Darllen mwy

14 Ionawr 2026

Partneriaethau Dysgu Oedolion yng Nghymru

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg i oedolion a theuluoedd, a gyflwynir mewn lleoliadau yn y gymuned i ddiwallu anghenion lleol. Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion ym mhob ardal Awdurdod Lleol ac arweinyddiaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned ym mhob Awdurdod Lleol a Sefydliad Addysg Bellach.

Darllen mwy

13 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion

Mae enwebiadau wedi agor gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026 Caiff y gwobrau blynyddol eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a maent yn dathlu llwyddiannau eithriadol unigolion a phrosiectau cymunedol yng Nghymru sy’n dangos angerdd, ymroddiad ac egni rhagorol i’w gwella eu hunain a’u cymuned drwy ddysgu gydol oes.

Darllen mwy

1 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid

Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid blynyddol yn dathlu gwaith tiwtoriaid a mentoriaid wrth gefnogi dysgu gydol oes ledled Cymru. Rydym yn gwahodd enwebiadau ar ran unigolion rhagorol y mae eu hymroddiad, gwybodaeth a sgiliau addysgu wedi rhoi’r hyder i oedolion gymryd rhan mewn dysgu a thrawsnewid eu bywydau.

Darllen mwy

17 Rhagfyr 2025

Cymhelliannau, Dyheadau a Rhwystrau Dysgu Oedolion

This research was in partnership with the Learning and Work Institute Cymru to gain greater insight into adult learner experiences of further and higher education in Wales as this is largely a missing voice from the recent literature.

Darllen mwy

3 Rhagfyr 2025

Dysgu fel Teulu

Mae dysgu fel teulu yn newid bywydau. Pan fo cyfleoedd dysgu ar gyfer oedolion wedi eu cysylltu gydag addysg plant yn y teulu, dengys tystiolaeth fod hynny yn meithrin cymhelliant, hyder ac ymroddiad i ddysgu.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Sylw ar Gasnewydd – Lle o fewn lle

Mae Ufi VocTech Trust, mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, wedi cyd-lansio cynllun arloesol seiliedig ar le i integreiddio addysg a chyfleoedd datblygu sgiliau yng nghymunedau dwyrain Casnewydd.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Rhoi sylw i arwyr addysg oedolion – dathlu’r tiwtoriaid sy’n ysbrydoli, cefnogi a thrawsnewid bywydau bob dydd

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi lansio Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026, sy’n dathlu ymroddiad, angerdd ac effaith tiwtoriaid addysg oedolion ledled Cymru.

Darllen mwy