Adeiladu cenedl ail gyfle i sicrhau bod gan bawb gyfle teg mewn bywyd.
Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg i oedolion a theuluoedd, a gyflwynir mewn lleoliadau yn y gymuned i ddiwallu anghenion lleol. Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion ym mhob ardal Awdurdod Lleol ac arweinyddiaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned ym mhob Awdurdod Lleol a Sefydliad Addysg Bellach.
Mae pob un o’r partneriaethau’n gweithio gyda chymunedau ledled Cymru i ymateb i angen lleol – maent yn chwarae rhan hanfodol mewn cyflogadwyedd, meithrin sgiliau hanfodol a digidol, lles; cefnogi teuluoedd, hyrwyddo integreiddio, a helpu pobl o bob oed i fyw bywydau mwy annibynnol a boddhaus.
Mae’r partneriaethau wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau mewn addysg ac ehangu mynediad i bob unigolyn i ennill cyfleoedd cyfartal, a fydd yn galluogi ac yn grymuso mwy o bobl i gymryd rhan mewn dysgu a derbyn cefnogaeth unigol.
Cyfleoedd Dysgu Cymunedol i Oedolion
Darperir cyrsiau a chyfleoedd dysgu drwy rwydwaith amrywiol o ddarparwyr, gan gynnwys gwasanaethau addysg oedolion awdurdodau lleol, colegau, a’r trydydd sector.
Mae Dysgu Cymunedol i Oedolion yn darparu sgiliau hanfodol, darllen, ysgrifennu, mathemateg, sgiliau digidol, cymwysterau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), gan gynnwys Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (WSOL), yn ogystal â dysgu ar gyfer cyflogadwyedd, a gwella iechyd a lles, rhaglenni dysgu teuluol, a dysgu ar gyfer diddordeb cyffredinol a hamdden.
Partneriaethau Dysgu Oedolion yng Nghymru
Gwent ACL Partnership
(Caerphilly, Blaenau Gwent Monmouthshire, Newport, Torfaen)
Cardiff and Vale Community Learning Partnership
Gwynedd & Môn Community Learning
Conwy and Denbighshire Partnership
Neath Port Talbot & Powys Partnership
Adult Community Learning North East Wales
Adult Community Learning Swansea
Carmarthenshire Adult Community Learning Partnership
https://www.csgcc.ac.uk/splash?destination=/node/33