Neidio i’r prif gynnwys

Gwaith gwell

14 Tachwedd 2024

Sicrhau gweithlu parod i’r dyfodol mewn peirianneg a gweithgynhyrchu ar gyfer Cymru

Mae gan dreftadaeth ddiwydiannol Cymru hanes hir o ragoriaeth mewn diwydiannau peirianneg a gweithgynhyrchu megis ynni, gweithgynhyrchu gwerth uchel a ffermio sy’n parhau yn hanfodol i’n heconomi cenedlaethol. Mae’n hanfodol deall gofynion unigryw peirianneg a hefyd weithgynhyrchu yng Nghymru ar gyfer creu gweithlu parod i’r dyfodol.

Darllen mwy

10 Medi 2024

Addysg oedolion: Creu llwybrau at degwch economaidd

Rydym i gyd yn gwybod bod sgiliau a lefelau addysg uwch yn sbardunau allweddol o lwyddiant economaidd, i unigolion ac ar draws ardaloedd daearyddol. Os ydym am i Gymru gael economi lewyrchus lle mae manteision y ffyniant hwnnw’n cael eu dosbarthu’n gyfartal, yna mae addysg a sgiliau yn mynd i fod yn ffocws craidd.

Darllen mwy

3 Mehefin 2024

Cydweithredu seiliedig ar le: diweddariad o Gasnewydd

Gan adeiladu ar bapurau gwyrdd a gwyn, VocTech Challenge, mae Ufi VocTech Trust (Ufi) a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi datblygu rhaglen o bartneriaethau seiliedig ar le.

Darllen mwy

3 Ionawr 2024

Mae’n amser i bawb ohonom gymryd rhan mewn VET

Am lawer o hanes fodern cafodd addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) eu hystyried yn llwyr yn gyfrifoldeb cyflogwyr. Mewn gwirionedd, mae’n ffenomen eithaf diweddar i lywodraethau ymwneud â VET o gwbl.

Darllen mwy

14 Ebrill 2023

Gwerthusiad o’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith

Ym mis Mehefin 2022 cafodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith eu penodi gan Lywodraeth Cymru i werthuso cyfnod diweddaraf eu Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith. Dechreuodd y gwerthusiad ym mis Gorffennaf 2022 a chafodd ei gwblhau ym mis Hydref 2022. Mae’n dilyn gwerthusiad dechreuol o’r gwasanaeth a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2019. Yr amcanion oedd trechu tlodi ac allgauedd cymdeithasol drwy gyflogaeth gynaliadwy mewn rhannau o Ogledd a De Cymru.

Darllen mwy

15 Hydref 2021

Gwerthuso’r Rhaglen Prentisiaeth Gradd

Amcanion y rhaglen Prentisiaeth Gradd yw helpu i alinio’r system prentisiaeth yn well i ddarparu’r sgiliau lefel uwch mae cyflogwyr eu hangen ac i helpu galluogi dilyniant o’r rhaglenni prentisiaeth presennol i addysg uwch.

Darllen mwy

9 Gorffennaf 2020

Pobl ifanc yn ardaloedd tlotaf Cymru yn dal i gael eu gadael ar ôl yn dilyn dau ddegawd o ddatganoli

Mae’r addysg a’r cyfleoedd cyflogaeth y gall pobl ifanc yng Nghymru eu disgwyl yn dal i gael eu penderfynu gan ble maent yn byw – yn hytrach na gan eu gallu – yn ôl data newydd a gyhoeddwyd gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru heddiw. Mae’r Mynegai Cyfle Ieuenctid, y cyntaf, o’i fath yn y wlad, yn dangos mai pobl ifanc sy’n tyfu fyny yn yr ardaloedd mwyaf amddifadus fel Torfaen, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent, sydd â’r lleiaf o fynediad i gyfleoedd, gan eu gadael yn wynebu anfantais dwbl.

Darllen mwy