Gan adeiladu ar  bapurau gwyrdd a gwyn, VocTech Challenge, mae Ufi VocTech Trust (Ufi) a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi datblygu rhaglen o bartneriaethau seiliedig ar le.

Mae’r partneriaethau hyn wedi cynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid mewn dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig o’r sectorau addysg, cyflogaeth a sgiliau er mwyn adnabod rhwystrau lleol i gymryd rhan mewn addysg oedolion a datblygu dulliau gweithredu i fynd i’r afael â nhw.

Mae’r blog yma’n cyflwyno rhai o’r themâu a ddaeth I’r amlwg o drafodaethau cynnar gyda rhanddeiliaid o Gasnewydd, ein pedwaredd partneriaeth – a’r olaf – seiliedig ar le. Hyd yma mae Dysgu a Gwaith ac Ufi wedi cynnal dau weithdy ar-lein gyda rhanddeiliaid allweddol o’r awdurdod lleol, y sector addysg oedolion a chyrff elusennol a gwirfoddol yng Nghasnewydd ac yn ehangach yn Ne Cymru.

Mae ein sgyrsiau hyd yma’n awgrymu fod preswylwyr Casnewydd yn wynebu nifer o rwystrau i ymgysylltu mewn dysgu yn cynnwys lefelau isel o sgiliau hanfodol, diffyg cymwysterau ffurfiol a heriau lluosog yn ymwneud â hygyrchedd. Yn ychwanegol, mae preswylwyr yn tueddu i fod â diffyg ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd presennol a allai eu galluogi i oresgyn y rhwystrau hyn. Awgrymodd rhanddeiliaid hefyd y gallai agosatrwydd Casnewydd at Gaerdydd olygu fod Casnewydd yn colli cyfleoedd i’r brifddinas.

Y ddarpariaeth bresennol

Er yr heriau hyn, soniodd rhanddeiliaid am nifer o gyfleoedd a allai alluogi preswylwyr i adeiladu sgiliau a phrofiad ar gyfer dysgu neu gyflogaeth yn y dyfodol:

  • Cyfleoedd yn y sector addysg oedolion a sgiliau. Roedd rhanddeiliaid yn cydnabod fod amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer dysgwyr ar wahanol lefelau sgiliau, yn cynnwys prentisiaethau, rhaglen rhifedd Lluosi, darpariaeth a gyllidir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a champws prifysgol yn y ddinas. Nodwyd fod codi ymwybyddiaeth o’r ddarpariaeth hon a chwalu rhwystrau agweddau a allai fod yn atal ymgysylltu, er enghraifft diffyg hyder a chanfyddiadau ymysg dysgwyr fod y cyfleoedd hyn allan o’u cyrraedd.
  • Arfer da yn y sector gwirfoddol. Dywedwyd fod gan Gasnewydd sector gwirfoddol ffyniannus, a gwelodd rhanddeiliaid y gallai hynny fod yn garreg gamu bosibl i gyflogaeth. Er enghraifft, nododd rhanddeiliaid fod Prifysgol De Cymru yn cydweithio gyda’r sector gwirfoddol i roi cyfleoedd i fyfyrwyr adeiladu sgiliau a phrofiad.
  • Buddsoddiad yn y sector technoleg. Mae sector technoleg twf yng Nghasnewydd a rhanbarth De Cymru yn ehangach, gyda buddsoddiadau diweddar gan gyflogwyr mawr yn cynnwys Airbus a Microsoft. Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cynllunio rhaglen ddysgu gyda ffocws ar seibr-ddiogelwch, technoleg feddygol, sero net a thechnoleg cyllid, ac mae academi seibr-ddiogelwch yng nghampws Casnewydd Prifysgol De Cymru. Her a nodwyd gan randdeiliaid yw sut i ddatblygu sgiliau digidol preswylwyr Casnewydd i sicrhau eu bod yn manteisio o’r cyfleoedd hyn.

Cyfleoedd i gydweithio

Yn seiliedig ar y trafodaethau hyn, her glir i Gasnewydd yw helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau i gael mynediad i ddysgu a chyfleoedd datblygu. I fynd i’r afael â’r her hon, awgrymodd rhanddeiliaid y gallai cydweithredu seiliedig ar Gasnewydd ganolbwyntio ar:

  • Defnyddio dulliau cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth i gysylltu dysgwyr gyda chyfleoedd i ddatblygu sgiliau ac ennill profiad gwaith.
  • Llunio cysylltiadau rhwng y sector technoleg a mudiadau gwirfoddol, y sector addysg oedolion a’r awdurdod lleol i ddatblygu’r sgiliau digidol sydd eu hangen ar gyfer swyddi technoleg.
  • Cwmpasu gwaith i egluro ystod cyfleoedd presennol yn y ddinas a’r gefnogaeth y mae gan breswylwyr hawl iddo a fyddai’n eu galluogi i gymryd rhan.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd Ufi a Dysgu a Gwaith yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid yng Nghasnewydd. Croesawn ymgyfraniad sefydliadau lleol sy’n gweithio mewn addysg, cyflogaeth a sgiliau ac unrhyw adborth yn ein trafodaethau hyd yma.

Cymryd rhan

I gymryd rhan, anfonwch e-bost uniongyrchol atom i

VocTechChallenge@ufi.co.uk

14 Ionawr 2026

Partneriaethau Dysgu Oedolion yng Nghymru

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg i oedolion a theuluoedd, a gyflwynir mewn lleoliadau yn y gymuned i ddiwallu anghenion lleol. Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion ym mhob ardal Awdurdod Lleol ac arweinyddiaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned ym mhob Awdurdod Lleol a Sefydliad Addysg Bellach.

Darllen mwy

13 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion

Mae enwebiadau wedi agor gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026 Caiff y gwobrau blynyddol eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a maent yn dathlu llwyddiannau eithriadol unigolion a phrosiectau cymunedol yng Nghymru sy’n dangos angerdd, ymroddiad ac egni rhagorol i’w gwella eu hunain a’u cymuned drwy ddysgu gydol oes.

Darllen mwy

1 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid

Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid blynyddol yn dathlu gwaith tiwtoriaid a mentoriaid wrth gefnogi dysgu gydol oes ledled Cymru. Rydym yn gwahodd enwebiadau ar ran unigolion rhagorol y mae eu hymroddiad, gwybodaeth a sgiliau addysgu wedi rhoi’r hyder i oedolion gymryd rhan mewn dysgu a thrawsnewid eu bywydau.

Darllen mwy

17 Rhagfyr 2025

Cymhelliannau, Dyheadau a Rhwystrau Dysgu Oedolion

This research was in partnership with the Learning and Work Institute Cymru to gain greater insight into adult learner experiences of further and higher education in Wales as this is largely a missing voice from the recent literature.

Darllen mwy

3 Rhagfyr 2025

Dysgu fel Teulu

Mae dysgu fel teulu yn newid bywydau. Pan fo cyfleoedd dysgu ar gyfer oedolion wedi eu cysylltu gydag addysg plant yn y teulu, dengys tystiolaeth fod hynny yn meithrin cymhelliant, hyder ac ymroddiad i ddysgu.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Sylw ar Gasnewydd – Lle o fewn lle

Mae Ufi VocTech Trust, mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, wedi cyd-lansio cynllun arloesol seiliedig ar le i integreiddio addysg a chyfleoedd datblygu sgiliau yng nghymunedau dwyrain Casnewydd.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Rhoi sylw i arwyr addysg oedolion – dathlu’r tiwtoriaid sy’n ysbrydoli, cefnogi a thrawsnewid bywydau bob dydd

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi lansio Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026, sy’n dathlu ymroddiad, angerdd ac effaith tiwtoriaid addysg oedolion ledled Cymru.

Darllen mwy

10 Hydref 2025

Paid Stopio Dysgu: Dathlu Llwyddiant yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion Eleni

Fis diwethaf roedd Abertawe yn llawn dathlu wrth i ni anrhydeddu llwyddiannau anhygoel dysgwyr sy’n oedolion yn y seremoni wobrwyo. Roedd yr ystafell yn llawn emosiwn, cynhesrwydd a straeon grymus am ddyfalbarhad a llwyddiant. Mae pob stori yn enghraifft wych o effaith dysgu gydol oes fel catalydd ar gyfer newid sy’n agor drysau, yn meithrin hyder ac yn sbarduno gwir drawsnewid.

Darllen mwy