Mae ymchwil newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn archwilio dyfodol polisi cymorth cyflogaeth yng Nghymru ac yn dynodi meysydd lle gellir gwella’r system bresennol i roi mwy o gymorth i bobl ganfod gwaith ansawdd da, yn arbennig y rhai sy’n wynebu rhwystrau yn cynnwys iechyd gwael ac anabledd.

Dengys yr ymchwil y byddai tua 28,000 yn fwy o bobl mewn gwaith pe byddai cyfradd cyflogaeth Cymru yn cyfateb â chyfradd y Deyrnas Unedig. Mae ehangu cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru yn helpu teuluoedd i symud allan o dlodi, yn gwella deilliannau iechyd a llesiant, yn rhoi mwy o rym gwario i bobl ac yn hybu’r galw mewn economïau lleol. Mae hefyd yn helpu i roi cyllid cyhoeddus Cymru, ac felly y gwasanaethau cyhoeddus, mewn lle cryfach oherwydd cynnydd mewn derbyniadau treth.

Beth yw cymorth cyflogaeth?

Mae’r ymyriadau a elwir fel arfer yn gymorth cyflogaeth, neu weithiau yn gymorth cyflogadwyedd neu lesiant-i’r-gwaith, yn ymyriadau ar gyfer pobl sydd angen help i ganfod neu sicrhau cynnydd mewn gwaith. Mae cymorth cyflogaeth yn cynnwys gweithgareddau tebyg i hyfforddiant unigol, cyrsiau cyflogadwyedd, clybiau swyddi, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd, lleoliadau gwaith â chymorth a chymorth mewn gwaith. Mae hybiau swyddi yn fath arall o gymorth cyflogaeth. Mae’r rhain yn gynlluniau seiliedig ar le sy’n dod ynghyd â chymorth cyflogaeth, sgiliau, darpariaeth a gwasanaethau cofleidiol tebyg i gymorth cynhwysiant digidol a llesiant.

Caiff cymorth cyflogaeth yng Nghymru ei ddarparu gan ystod eang o sefydliadau, yn cynnwys Canolfan Byd Gwaith, rhaglenni a gomisiynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, Llywodraeth Cymru, cynghorau, colegau, landlordiaid cymdeithasol ac ystod o sefydliadau er-elw a dim-er-elw.

Canfyddiadau allweddol yr ymchwil:

  • Mae cyfradd cyflogaeth Cymru yn is nag yn Lloegr a’r Alban, fel canlyniad i gyfraddau uwch o anweithgaredd economaidd..
  • Iechyd gwael ac anableddau yw prif achos anweithgaredd economaidd yng Nghymru, gyda 146,000 o bobl neu 7.7% o’r boblogaeth oedran gwaith yn economaidd anweithgar oherwydd cyflyrau iechyd neu hirdymor, o gymharu gyda 5.5% yn Lloegr a 6.9% yn yr Alban.
  • Mae gan cymorth cyflogaeth hefyd rôl i’w chwarae wrth drin ansicrwydd swydd a thlodi mewn gwaith a gwneud Cymru yn genedl gwaith teg sy’n ymateb i newidiadau mewn patrymau cyflogaeth.
  • Wrth edrych i’r dyfodol, bydd Cymru angen mwy o weithwyr gyda sgiliau digidol a gwyrdd a mwy o weithlu gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, gall swyddi gael eu colli drwy ddeallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio. Mae gan gymorth cyflogaeth rôl wrth helpu pobl i newid gyrfa a galluogi cymunedau i fod yn gydnerth i sioc economaidd.

Y potensial am ddiwygio system cymorth cyflogaeth Cymru:

Mae’r tirlun cymorth cyflogaeth cyfredol yn gymhleth, gydag unigolion yn gorfod canfod eu ffordd o amgylch rhaglenni lluosog a gaiff eu rhedeg gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol a nifer sylweddol o asiantaethau. Dim ond un mewn deg o bobl hŷn sydd allan o waith a phobl anabl yn y Deyrnas Unedig sy’n cael help i ganfod gwaith bob blwyddyn.

Mae angen partneriaeth llawer agosach rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion hyn. Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn galw am strategaeth ar y cyd i ymdrin ag anweithgaredd economaidd. Gan ddefnyddio enghreifftiau rhyngwladol fel rhai yn yr Almaen a’r Unol Daleithiau, dylai’r strategaeth archwilio ffyrdd o weithio, yn cynnwys yr hyn sy’n addas i’w ddatganoli i helpu hybu mwy o atebolrwydd a deilliannau gwell.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn Crynodeb gweithredol

13 Ionawr 2026

Rhaglen Tystiolaeth ar y Farchnad Lafur

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi comisiynu’r Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, i ddarparu adolygiadau tystiolaeth ac adnoddau ymarferol ar faterion allweddol y farchnad lafur i helpu llywio gwneuthurwyr polisi lleol. 

Darllen mwy

26 Tachwedd 2025

Adroddiad terfynol: Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru

Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

26 Tachwedd 2025

Angen cynllun newydd dewr i helpu 60,000 yn fwy o bobl i waith yng Nghymru a mynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd.

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

6 Tachwedd 2025

Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru

Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

21 Hydref 2025

Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru

Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith.

Darllen mwy

8 Ebrill 2025

Serco yn cyhoeddi prosiect ymchwil ar y cyd i hybu marchnad swyddi Cymru

Mae Serco yn arwain cynllun ymchwil hollbwysig gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith sy’n anelu i sicrhau marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru. 

Darllen mwy

29 Tachwedd 2024

A all Papur Gwyn Get Britain Working gael Cymru i weithio?

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Phapur Gwyn Get Britain Working y bu’n sôn amdano ers cryn amser. Mae’r Papur Gwyn yn cyflwyno diwygiadau sylweddol i’r ffordd y bydd cymorth cyflogaeth yn gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn Lloegr yn neilltuol, gyda’r nod o ddod ag iechyd, gwaith a sgiliau ynghyd mewn model cyflenwi sy’n fwy ymatebol yn lleol.

Darllen mwy

14 Tachwedd 2024

Sut mae Cynllun Restart Serco yn addasu i Ddeallusrwydd Artiffisial a’r Tirlun Digidol i baratoi gweithlu Cymru ar gyfer y dyfodol.

Mewn oes pan fo technoleg a marchnadoedd swyddi yn esblygu’n gyflym iawn, mae sicrhau fod gan unigolion y sgiliau angenrheidiol i ddatblygu yn dod yn hanfodol. Gan fod 26.5% sylweddol o’r boblogaeth oedran gwaith yng Nghymru yn parhau i fod wedi ymddieithrio o’r farchnad lafur, mae’n amlwg fod angen dulliau gweithredu newydd.

Darllen mwy

3 Medi 2024

Cynllun peilot Dyfodol Newydd Cymru

Nod ein rhaglen flaenllaw Dyfodol Newydd oedd cefnogi gweithwyr oedd yn dymuno newid gyrfa ac ail-sgilio fel canlyniad I bandemig Covid-19. Ariannwyd y gwaith gan Gronfa Cymorth Covid-19.

Darllen mwy