Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith.

Dengys dadansoddiad y Sefydliad Dysgu a Gwaith y darperir amcangyfrif o £47 miliwn drwy ddatganoli i gyflenwi cymorth cyflogaeth ychwanegol yng Nghymru. Mae hwn yn amser allweddol i Lywodraeth Cymru gynllunio a chyflenwi cymorth cyflogaeth sydd wedi ei deilwra i anghenion cymunedau ledled y wlad.

Daw’r newid hwn ar amser hollbwysig pan fo pobl yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol a rhyng-gysylltiedig yn y farchnad lafur:

  • Mae Cymru yn profi cyfraddau uwch o anweithgarwch economaidd (16%) o gymharu â Lloegr (14%). Anabledd ac iechyd gwael yw prif achos hyn yng Nghymru, gyda 7% o’r boblogaeth oedran gwaith yn economaidd anweithgar am y rheswm hwn.
  • Mae menywod yn sylweddol fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar na dynion (cyfradd o 19% o gymharu ­â 13%), a gaiff ei yrru yn rhannol gan fenywod yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am ofalu am y cartref a’r teulu.
  • Mae anweithgarwch economaidd hefyd yn fwy tebygol o effeithio ar bobl o grwpiau ethnig lleiafrifol o gymharu â rhai o gefndiroedd Gwyn, ar gyfraddau o 18% a 16% yn yr un drefn.
  • Mae gwahaniaethau rhanbarthol yn effeithio ar ddeilliannau pobl, gyda chyfuniad o ffactorau economaidd, demograffig a strwythurol yn effeithio ar gyfraddau cyflogaeth. Er enghraifft, mae’r bylchau cyflogaeth mwyaf ar gyfer pob anabl a chyflyrau iechyd hirdymor yng Nghanolbarth Cymru, sydd efallai yn gysylltiedig â’i economi wledig a heriau seilwaith.

Er mwyn deall y ffordd orau y gall y system cymorth cyflogaeth gyflawni anghenion y rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur, cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda phobl â phrofiad bywyd o anweithgarwch economaidd. Fe wnaethant ddweud wrthym fod y rhwystrau allweddol i ganfod a chynnal gwaith yn cynnwys:

Darllen yr adroddiad

‘Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru’

Darllen yr adroddiad

Er mwyn deall y ffordd orau y gall y system cymorth cyflogaeth gyflawni anghenion y rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur, cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda phobl â phrofiad bywyd o anweithgarwch economaidd. Fe wnaethant ddweud wrthym fod y rhwystrau allweddol i ganfod a chynnal gwaith yn cynnwys:

  • Diffyg opsiynau gofal plant fforddiadwy, a methu sicrhau trefniadau gweithio hyblyg
  • Diffyg cyfleoedd swyddi lleol, a waethygir gan seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus wael
  • Profiadau negyddol yn y gorffennol o gymorth cyflogaeth ffurfiol
  • Cyflyrau iechyd meddwl a chorfforol, gyda rhestri aros hir am gymorth
  • Gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio oherwydd rhagfarn hiliol dybiedig neu stigma am faterion iechyd meddwl

Fe wnaethom hefyd gynnal gweithdai gyda rhanddeiliaid sy’n cynrychioli grwpiau poblogaeth sy’n wynebu heriau ychwanegol. Soniwyd am newidiadau allweddol sydd eu hangen i wneud y farchnad lafur yn fwy cynhwysol:

  • Mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau gwaith, iechyd a sgiliau i ddarparu cymorth mwy holistig a mwy hirdymor i’r rhai sydd ei angen
  • Cymryd dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gydnabod anghenion amrywiol a chymhleth unigolion
  • Hysbysebu ehangach sy’n sicrhau fod pobl yn deall pa gymorth sydd ar gael a sut i gael mynediad i hynny

Bydd cyfnod olaf y gwaith hwn yn gosod opsiynau ar sut y gall Cymru fanteisio i’r eithaf ar ddatganoli, gyda chamau gweithredu ymarferol ar gyfer llywodraeth, darparwyr cymorth cyflogaeth a chyflogwyr. Caiff canfyddiadau ymchwil ac argymhellion polisi eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2025.


Data o Gyfrifiad 2021.

Ar gyfer yr ymchwil yma, mae anweithgaredd economaidd yn cyfeirio at oedolion (16-64 oed) a gaiff eu rhestru fel bod yn economaidd anweithgar oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, gofalu ar ôl y cartref neu deulu, neu am resymau ‘Eraill’. Nid yw’n cynnwys myfyrwyr neu bobl sydd wedi ymddeol.

13 Ionawr 2026

Rhaglen Tystiolaeth ar y Farchnad Lafur

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi comisiynu’r Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, i ddarparu adolygiadau tystiolaeth ac adnoddau ymarferol ar faterion allweddol y farchnad lafur i helpu llywio gwneuthurwyr polisi lleol. 

Darllen mwy

26 Tachwedd 2025

Adroddiad terfynol: Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru

Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

26 Tachwedd 2025

Angen cynllun newydd dewr i helpu 60,000 yn fwy o bobl i waith yng Nghymru a mynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd.

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

6 Tachwedd 2025

Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru

Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

21 Hydref 2025

Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru

Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith.

Darllen mwy

8 Ebrill 2025

Serco yn cyhoeddi prosiect ymchwil ar y cyd i hybu marchnad swyddi Cymru

Mae Serco yn arwain cynllun ymchwil hollbwysig gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith sy’n anelu i sicrhau marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru. 

Darllen mwy

29 Tachwedd 2024

A all Papur Gwyn Get Britain Working gael Cymru i weithio?

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Phapur Gwyn Get Britain Working y bu’n sôn amdano ers cryn amser. Mae’r Papur Gwyn yn cyflwyno diwygiadau sylweddol i’r ffordd y bydd cymorth cyflogaeth yn gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn Lloegr yn neilltuol, gyda’r nod o ddod ag iechyd, gwaith a sgiliau ynghyd mewn model cyflenwi sy’n fwy ymatebol yn lleol.

Darllen mwy

14 Tachwedd 2024

Sut mae Cynllun Restart Serco yn addasu i Ddeallusrwydd Artiffisial a’r Tirlun Digidol i baratoi gweithlu Cymru ar gyfer y dyfodol.

Mewn oes pan fo technoleg a marchnadoedd swyddi yn esblygu’n gyflym iawn, mae sicrhau fod gan unigolion y sgiliau angenrheidiol i ddatblygu yn dod yn hanfodol. Gan fod 26.5% sylweddol o’r boblogaeth oedran gwaith yng Nghymru yn parhau i fod wedi ymddieithrio o’r farchnad lafur, mae’n amlwg fod angen dulliau gweithredu newydd.

Darllen mwy

3 Medi 2024

Cynllun peilot Dyfodol Newydd Cymru

Nod ein rhaglen flaenllaw Dyfodol Newydd oedd cefnogi gweithwyr oedd yn dymuno newid gyrfa ac ail-sgilio fel canlyniad I bandemig Covid-19. Ariannwyd y gwaith gan Gronfa Cymorth Covid-19.

Darllen mwy