David Elsmere, Rheolwr Partneriaeth, Cynllun Restart yn Serco

Mewn oes pan fo technoleg a marchnadoedd swyddi yn esblygu’n gyflym iawn, mae sicrhau fod gan unigolion y sgiliau angenrheidiol i ddatblygu yn dod yn hanfodol. Gan fod 26.5% sylweddol o’r boblogaeth oedran gwaith yng Nghymru yn parhau i fod wedi ymddieithrio o’r farchnad lafur, mae’n amlwg fod angen dulliau gweithredu newydd.

Dechreuodd Cynllun Restart yn dilyn COVID-19 yn 2021 ac mae’n gynllun gan y llywodraeth sy’n anelu i helpu pobl (cyfranogwyr) i ddatblygu eu sgiliau a chanfod cyflogaeth gynaliadwy. Mae Serco yn cyflwyno’r Cynllun Restart yng Nghymru ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae Cynllun Restart yn deall y farchnad swyddi, gan ddefnyddio technoleg newydd a hyfforddiant digidol cynhwysfawr i ymrymuso pobl yng Nghymru sy’n chwilio am swyddi, gan sicrhau eu bod wedi paratoi’n dda ar gyfer marchnad swyddi y dyfodol.

Hyfforddiant mewn Sgiliau Digidol

Gan sylweddoli fod llythrennedd digidol yn hanfodol ym marchnad swyddi heddiw, mae Hyfforddwyr Cynllun Restart Serco yn cynnig ystod o gyrsiau sgiliau digidol i’r cyfranogwyr ar gynllun Restart. Mae hyn yn cynnwys sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol, e-bost yn y gweithle a defnyddio peiriannau chwilio. Caiff y gwahanol gyrsïau eu cynnig i gyfranogwyr yn seiliedig ar eu set sgiliau cyfredol. Yn ogystal â hyn, mae Hyfforddwyr Cynllun Restart yn cynnig cyrsiau sgiliau digidol-wythnos i unrhyw gwsmer Canolfan Byd Gwaith a Mwy sydd dros 50 oed. Nod yr hyfforddiant yw pontio’r bwlch ar gyfer pobl dros 50 oed ac unigolion gyda sgiliau isel, gan roi’r wybodaeth angenrheidiol iddynt ffynnu mewn amgylchedd digidol yn gyntaf. Cynigir yr hyfforddiant mewn Canolfannau Byd Gwaith a Mwy lleol yn Ne Ddwyrain Cymru a maent yn cynnwys popeth o weithredu cyfrifiadur sylfaenol i bensiynau a siopa ar-lein. Mae’r holl gyrsiau a gynigir gan Serco yn sicrhau addysg ddigidol gynhwysfawr sy’n galluogi’r unigolyn i fod â mwy o ymwybyddiaeth o dechnoleg.

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial

Integreiddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yw un o’r ffyrdd y mae Serco yn trawsnewid gwasanaethau cyflogadwyedd. Drwy awtomeiddio tasgau fel ysgrifennu CV a nodiadau cyfarfod, mae AI yn cynyddu cynhyrchiant ein anogwyr swyddi yn sylweddol. Mewn sesiwn arferol un-i-un ar ysgrifennu CV, gall anogwr gael sgwrs 10 munud gyda’r sawl sy’n cymryd rhan ac wedyn, gan ddefnyddio AI, lunio CV da mewn tua munud. Yn ogystal â symleiddio’r broses mae hyn yn sicrhau fod pawb sy’n cymryd rhan yn gadael gyda CV proffesiynol a deniadol, a gafodd ei deilwra o’r adolygiad diagnostig oedd yn crynhoi eu hanes gwaith, cymwysterau a nodau gyrfa.

Cefnogi anghenion amrywiol drwy ddulliau gweithredu wedi eu teilwra

Mae Cynllun Restart yn deall fod y sawl sy’n cymryd rhan yn wynebu rhwystrau lluosog i gyflogaeth, o broblemau iechyd i ddiffyg addysg ffurfiol. Nid oes gan tua 19% o’r cyfranogwyr unrhyw gymwysterau ffurfiol, a chymwysterau dan lefel 2 sydd gan bron eu hanner. Dywed cyfran sylweddol mai sgiliau digidol gwael sydd ganddynt. Mae gan 13% gymhwyster Lefel 5 neu uwch. Ar ôl cynllun peilot llwyddiannus, fe wnaethom ymestyn ein cynnig ar gyfer graddedigion ledled Cymru dan yr enw ‘Restart Scheme Blue’ lle mae gan y cyfranogwyr fentor neilltuol un i un am 12 wythnos fydd yn eu helpu gyda ymchwil LinkedIn, meithrin hyder a gwytnwch a datblygu llwybrau gyrfa i ganfod swydd sy’n cyfateb eu profiad. Fel canlyniad, nid dim ond canolbwyntio ar anghenion sgiliau ar unwaith y mae Cynllun Restart ond hefyd yn sicrhau fod pawb sy’n cymryd rhan yn symud tuag at gyflogaeth a datblygu sgiliau parhaus.

Yr effaith hyd yma

Ar hyn o bryd mae 6,912* o bobl sydd wedi canfod cyflogaeth cynaliadwy yng Nghymru drwy Gynllun Restart ers ei ddechrau yn 2021. Wrth edrych i’r dyfodol, bydd yn hanfodol gwerthuso ac addasu ein strategaethau yn barhaus. Wrth i’r farchnad swyddi barhau i esblygu gyda datblygiadau technolegol, felly hefyd fydd yn rhaid i’n dulliau hyfforddi a datblygu. Mae cynllun Restart yn ymroddedig i sicrhau fod gweithlu Cymru wedi paratoi ar gyfer heriau heddiw ond hefyd yn barod ar gyfer cyfleoedd yfory.

*data hyd at 8.11.24

13 Ionawr 2026

Rhaglen Tystiolaeth ar y Farchnad Lafur

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi comisiynu’r Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, i ddarparu adolygiadau tystiolaeth ac adnoddau ymarferol ar faterion allweddol y farchnad lafur i helpu llywio gwneuthurwyr polisi lleol. 

Darllen mwy

26 Tachwedd 2025

Adroddiad terfynol: Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru

Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

26 Tachwedd 2025

Angen cynllun newydd dewr i helpu 60,000 yn fwy o bobl i waith yng Nghymru a mynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd.

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

6 Tachwedd 2025

Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru

Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

21 Hydref 2025

Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru

Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith.

Darllen mwy

8 Ebrill 2025

Serco yn cyhoeddi prosiect ymchwil ar y cyd i hybu marchnad swyddi Cymru

Mae Serco yn arwain cynllun ymchwil hollbwysig gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith sy’n anelu i sicrhau marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru. 

Darllen mwy

29 Tachwedd 2024

A all Papur Gwyn Get Britain Working gael Cymru i weithio?

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Phapur Gwyn Get Britain Working y bu’n sôn amdano ers cryn amser. Mae’r Papur Gwyn yn cyflwyno diwygiadau sylweddol i’r ffordd y bydd cymorth cyflogaeth yn gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn Lloegr yn neilltuol, gyda’r nod o ddod ag iechyd, gwaith a sgiliau ynghyd mewn model cyflenwi sy’n fwy ymatebol yn lleol.

Darllen mwy

14 Tachwedd 2024

Sut mae Cynllun Restart Serco yn addasu i Ddeallusrwydd Artiffisial a’r Tirlun Digidol i baratoi gweithlu Cymru ar gyfer y dyfodol.

Mewn oes pan fo technoleg a marchnadoedd swyddi yn esblygu’n gyflym iawn, mae sicrhau fod gan unigolion y sgiliau angenrheidiol i ddatblygu yn dod yn hanfodol. Gan fod 26.5% sylweddol o’r boblogaeth oedran gwaith yng Nghymru yn parhau i fod wedi ymddieithrio o’r farchnad lafur, mae’n amlwg fod angen dulliau gweithredu newydd.

Darllen mwy

3 Medi 2024

Cynllun peilot Dyfodol Newydd Cymru

Nod ein rhaglen flaenllaw Dyfodol Newydd oedd cefnogi gweithwyr oedd yn dymuno newid gyrfa ac ail-sgilio fel canlyniad I bandemig Covid-19. Ariannwyd y gwaith gan Gronfa Cymorth Covid-19.

Darllen mwy