Nod ein rhaglen flaenllaw Dyfodol Newydd oedd cefnogi gweithwyr oedd yn dymuno newid gyrfa ac ail-sgilio fel canlyniad I bandemig Covid-19. Ariannwyd y gwaith gan Gronfa Cymorth Covid-19.
Roedd y rhaglen yn cynnwys tri maes gwaith:
- Pedwar cynllun peilot seiliedig ar le i brofi datrysiadau posibl i ail-sgilio a newid gyrfa ar lefel leol
- Gwerthuso a dadansoddi
- Rhannu’r hyn a ddysgwn i helpu llunio polisi ac ymarfer
Am y cynlluniau peilot
Buom yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y Deyrnas Unedig i gyflwyno pedwar cynllun peilot seiliedig ar le oedd â’r nod o gefnogi gweithwyr yr oedd Covid-19 wedi effeithio arnynt er mwyn ail-sgilio a newid gyrfa. Cyflwynwyd y cynlluniau peilot yng Nghymru, Caeredin, Belfast a Dyffryn Tees.
Anelwyd y cynlluniau peilot i adlewyrchu anghenion marchnadoedd llafur lleol a sgiliau’r poblogaethau lleol, ac roeddent i gyd yn cynnwys:
- Gwaith allgymorth wedi ei deilwra a’i dargedu
- Cyngor a hyfforddiant gyrfaoedd ansawdd uchel
- Datrysiadau ymarferol i fynd i’r afael â rhwystrau ail-sgilio, tebyg i fodelau hyblyg o hyfforddiant, darparu a help gyda chostau teithio neu ofal plant
Buom yn gweithio’n agos gyda phartneriaid lleol, yn cynnwys cyflogwyr, gwasanaethau sgiliau a chymorth cyflogaeth a mudiadau gwirfoddol a’r sector cymunedol.
Cynhaliwyd y cynlluniau peilot tan ddiwedd mis Medi 2023 a chawsant eu gwerthuso i helpu Dysgu a Gwaith i greu sylfaen tystiolaeth cadarn i ddangos i wneuthurwyr polisi yr hyn sy’n gweithio wrth gefnogi gweithwyr i ail-sgilio a newid gyrfa.
Darganfod canfyddiadau o beilot Cymru: Dyffryn Tees
Bu Awdurdod Cyfun Dyffryn Tees yn gweithio gyda chyflogwyr lleol ac academïau sgiliau oedd yn bodoli eisoes i ddeall gofynion sgiliau cyfredol a’r farchnad lafur leol i sicrhau y cafodd pobl eu cyfateb gyda’r cyfleoedd swyddi oedd ar gael. Y nod oedd profi’r hyn sy’n gweithio wrth gefnogi unigolion i newid gyrfa drwy ddarparu hyfforddiant gyrfa dwys wrth ochr hyfforddiant sgiliau, a chefnogi preswylwyr yr oedd y pandemig wedi effeithio’n niweidiol arnynt i gael gyrfa cynaliadwy, cynyddol.
