Am beth mae’r rhaglen waith yma? 

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi comisiynu’r Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, i ddarparu adolygiadau tystiolaeth ac adnoddau ymarferol ar faterion allweddol y farchnad lafur i helpu llywio gwneuthurwyr polisi lleol. 

Yn y pen draw gall y sylfaen tystiolaeth yma fwydo i Ganolfan annibynnol yr Hyn sy’n Gweithio yn y Farchnad Lafur y mae’r DWP yn ystyried ei sefydlu. Byddai’r Ganolfan hon yn hyrwyddo a hybu defnyddio a llunio tystiolaeth i gynhyrchu deilliannau gwell ar y farchnad lafur, yn arbennig ar y lefel leol. 

Nod y prosiect yw cefnogi gwneuthurwyr polisi lleol i ddeall yn well yr hyn sy’n gweithio wrth wella deilliannau’r farchnad lafur ar gyfer unigolion sydd allan o waith a hefyd unigolion mewn gwaith. 

Ein nod yw diwallu anghenion tystiolaeth gwasanaethau llywodraeth leol ac iechyd a’u cefnogi wrth ddylunio, comisiynu a chyflenwi ymyriadau marchnad lafur mewn ardaloedd lleol. Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr a defnyddwyr i ddiffinio cwmpas yr adolygiadau a phenderfynu ar y ffordd fwyaf ddefnyddiol o gyflwyno a rhannu canfyddiadau. 

Pa ddull gweithredu fyddwn i’n ei ddefnyddio?

Mae gan y rhaglen o waith yma dri cham neilltuol: 

Cam 1 – Ymgynghori â defnyddwyr a mapio tystiolaeth sydd ar gael eisoes (Rhagfyr 2025 – Ebrill 2026) 

Cynhelir cyfres o weithdai a chyfweliadau gydag amrywiaeth o randdeiliaid lleol yn cynnwys cynrychiolwyr o Awdurdodau Strategol Maerol, Byrddau Gofal Integredig ac Awdurdodau Lleol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn ymchwilio eu defnydd o dystiolaeth wrth ddylunio ymyriadau yn y farchnad lafur leol, rhwystrau i dystiolaeth a defnydd gwerthuso, y dewisiadau a ffafrir ar gyfer y boblogaeth ac ymyriadau y dylai’r adolygiadau ganolbwyntio arnynt a’r fformatau a ffafrir ar gyfer allbynnau’r adolygiad. 

Byddwn hefyd yn ymgynghori ag ymgynghorwyr arbenigol o Rwydwaith yr Hyn sy’n Gweithio a sefydliadau academaidd drwy gydol y rhaglen. Byddant yn helpu i ddatblygu ein dull gweithredu i gynnal a lledaenu’r adolygiadau, sicrhau fod yr adolygiadau wedi eu seilio ar y dystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol ddiweddaraf ac y cânt eu cynnal gyda thrylwyredd academaidd. 

Cam 2 – Adolygiadau tystiolaeth (yn adrodd ym mis Gorffennaf 2026 a mis Ionawr 2027) 

Unwaith y cytunir ar brif themâu’r adolygiadau, rhoddir ystyriaeth i gwmpas a maint pob adolygiad mewn ymgynghoriad gyda’n cynghorwyr arbenigol. Bydd pob adolygiad naill ai yn adolygiad tystiolaeth cyflym neu’n adolygiad systematig, yn dibynnu ar faint a natur y sylfaen tystiolaeth sydd ar gael eisoes. Caiff allbynnau eu cyhoeddi ar gyfer pob adolygiad gyda’r cyntaf ar gael ym mis Mai 2026, un arall ym mis Gorffennaf 2026 a’r gweddill ym mis Ionawr 2027. Yn cyd-fynd â hyn bydd adnoddau ychwanegol ar gyfer rhanddeiliaid lleol, tebyg i becynnau cymorth ymarferol a gweithdai, i’w cefnogi i ddefnyddio’r dystiolaeth yma yn eu gwaith. Bydd union fformat yr adnoddau hyn yn adlewyrchu dewisiadau rhanddeiliaid, a ddynodwyd yn ystod yr ymgynghoriad dechreuol gyda defnyddwyr. 

Cam 3 – Y gwersi a ddysgwyd (Ionawr – Ebrill 2027) 

Mae’r cam olaf yn anelu i asesu pa mor bell mae cynnwys a fformat yr adolygiadau yn cefnogi defnyddwyr i ymgysylltu’n effeithiol gyda thystiolaeth am y farchnad lafur a’i defnyddio yn eu gwaith. Bydd yn ymchwilio faint o ran y teimlai rhanddeiliaid lleol oedd ganddynt yn y broses ymgynghori ac os ydynt yn teimlo y caiff eu dewisiadau eu hadlewyrchu yn yr adnoddau terfynol. Bydd cam hwn y rhaglen yn cynnwys cyfweliadau a thrafodaethau panel gyda rhanddeiliaid lleol a fu’n ymwneud â’r camau blaenorol. 

Yn dilyn y rhaglen waith hon, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau ddefnyddio’r sylfaen tystiolaeth a’r gwersi a ddysgwyd i ffurfio Canolfan annibynnol yr Hyn sy’n Gweithio yn y Farchnad Lafur. 

13 Ionawr 2026

Rhaglen Tystiolaeth ar y Farchnad Lafur

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi comisiynu’r Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, i ddarparu adolygiadau tystiolaeth ac adnoddau ymarferol ar faterion allweddol y farchnad lafur i helpu llywio gwneuthurwyr polisi lleol. 

Darllen mwy

26 Tachwedd 2025

Adroddiad terfynol: Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru

Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

26 Tachwedd 2025

Angen cynllun newydd dewr i helpu 60,000 yn fwy o bobl i waith yng Nghymru a mynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd.

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

6 Tachwedd 2025

Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru

Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

21 Hydref 2025

Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru

Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith.

Darllen mwy

8 Ebrill 2025

Serco yn cyhoeddi prosiect ymchwil ar y cyd i hybu marchnad swyddi Cymru

Mae Serco yn arwain cynllun ymchwil hollbwysig gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith sy’n anelu i sicrhau marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru. 

Darllen mwy

29 Tachwedd 2024

A all Papur Gwyn Get Britain Working gael Cymru i weithio?

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Phapur Gwyn Get Britain Working y bu’n sôn amdano ers cryn amser. Mae’r Papur Gwyn yn cyflwyno diwygiadau sylweddol i’r ffordd y bydd cymorth cyflogaeth yn gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn Lloegr yn neilltuol, gyda’r nod o ddod ag iechyd, gwaith a sgiliau ynghyd mewn model cyflenwi sy’n fwy ymatebol yn lleol.

Darllen mwy

14 Tachwedd 2024

Sut mae Cynllun Restart Serco yn addasu i Ddeallusrwydd Artiffisial a’r Tirlun Digidol i baratoi gweithlu Cymru ar gyfer y dyfodol.

Mewn oes pan fo technoleg a marchnadoedd swyddi yn esblygu’n gyflym iawn, mae sicrhau fod gan unigolion y sgiliau angenrheidiol i ddatblygu yn dod yn hanfodol. Gan fod 26.5% sylweddol o’r boblogaeth oedran gwaith yng Nghymru yn parhau i fod wedi ymddieithrio o’r farchnad lafur, mae’n amlwg fod angen dulliau gweithredu newydd.

Darllen mwy

3 Medi 2024

Cynllun peilot Dyfodol Newydd Cymru

Nod ein rhaglen flaenllaw Dyfodol Newydd oedd cefnogi gweithwyr oedd yn dymuno newid gyrfa ac ail-sgilio fel canlyniad I bandemig Covid-19. Ariannwyd y gwaith gan Gronfa Cymorth Covid-19.

Darllen mwy