Neidio i’r prif gynnwys

Michelle Matheron

Cyfarwyddwr Cymru

Michelle yw Cyfarwyddwr Cymru ac mae’n gyfrifol am arwain gwaith Dysgu a Gwaith yng Nghymru a’n perthynas gyda Llywodraeth Cymru, Medr ac amrywiaeth o randdeiliaid a chyllidwyr. Ymunodd Michelle â Dysgu a Gwaith ym mis Ionawr 2026 ac roedd yn flaenorol yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol, Materion Allanol y Brifysgol Agored yng Nghymru. Yn y swydd honno roedd yn arwain gwaith polisi a materion cyhoeddus, cyfathrebu, effaith ymchwil a chenhadaeth ddinesig y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Mae Michelle hefyd wedi gweithio i nifer o gyrff trydydd sector Cymru mewn swyddi polisi a materion cyhoeddus. Roedd hyn yn cynnwys gweithio yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cyflwyno prosiect a gyllidwyd gan y loteri i helpu’r trydydd sector yng Nghymru i ddeall ac ymwneud gyda gwleidyddiaeth a gwneud penderfyniadau.

Y tu allan i’r gwaith mae Michelle yn ymddiriedolydd dwy elusen sy’n cefnogi teuluoedd gyda phrofiad o enedigaeth gynamserol ac yn ceisio defnyddio ei phrofiad fel rhiant babi cynamserol i alw am welliannau mewn iechyd meddwl cynenedigol a gofal newyddenedigol.

Cyswllt