Nicky Ivory-Chapman
Ymddiriedolwr
Mae Nicky yn Gymrawd Siartredig y CIPD gyda dros 20 mlynedd o brofiad mewn adnoddau dynol yn cynnwys swyddi cyffredinol ac arbenigol. Mae Nicky yn Bennaeth Talent Channel 4 ac yn hyfforddydd cymwysedig, Yn C4 hi sy’n gyfrifol am gaffael talent, rheoli talent, gyrfaoedd cynnar, prentisiaethau, cynefino staff newydd a chynllunio gweithlu. Mae ffocws cryf ar amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o waith Nicky er mwyn galluogi C4 i wella cynrychiolaeth fel darlledwr a hefyd yn ehangach mewn diwydiant. Cyn dod yn Bennaeth Talent bu gan Nicky swyddi blaenorol gyda ffocws ar frand cyflogwyr, ymgysylltu â chyflogeion a chyfathrebu gyda chyflogeion, yn dilyn ei gyrfa gynnar fel swyddog cyffredinol adnoddau dynol. Mae’n Ymddiriedolydd Bwrdd yr ‘Early Careers Foundation’ ac elusen dawns ‘The Lisa Ullmann Travelling Scholarship Fund’ a hefyd ar Bwyllgor Ymgynghori Academi y Gymdeithas Deledu Frenhinol. Y tu allan i’r gwaith mae’n edrych llawer ar y teledu, yn teithio pryd bynnag y gall ac yn gefnogwr gydol oes i glwb pêl-droed ei thref gartref, Leeds United.