Cwcis
Mae’r Polisi Cwcis hyn yn weithredol ar gyfer gwefan learningandwork.org.uk (y “Safle”) a gaiff ei redeg gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, cwmni cyfyngedig drwy warant (2603322) ac elusen gofrestredig (1002775).
Ein cyfeiriad masnachu yw: Unit 1.23, St Martins House, 7 Peacock Lane, Caerlŷr/Leicester, LE1 5PZ
Mae’r Polisi Cwcis hwn (y “Polisi”) yn esbonio sut y defnyddiwn gwcis a thechnolegau eraill tebyg i gasglu gwybodaeth am y ffordd mae defnyddwyr y wefan yn ymweld â’r Safle. Defnyddiwn gwcis ar draws ein gwefannau, yn cynnwys y Safle hwn, i wella eu perfformiad ac felly eich profiad ohonynt. Drwy fynd i’r Safle hwn, rydych yn cytuno i delerau’r Polisi hwn. Gallwn ddiweddaru’r polisi hwn o bryd i’w gilydd a byddwn yn postio unrhyw newidiadau ar y dudalen hon.
Rhestr cwcis
Mae cwci yn ddarn bach o ddata (ffeil testun) y mae gwefan – pan mae defnyddiwr yn ymweld â hi – yn gofyn i’ch porwr ei gadw ar eich dyfais er mwyn cofio gwybodaeth amdanoch, tebyg i’ch dewis iaith neu wybodaeth mewngofnodi. Ni sydd yn gosod y cwcis hyn a chânt eu galw yn gwcis parti-cyntaf. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis trydydd-parti – sydd yn gwcis o barth gwahanol i barth y wefan yr ydych yn ymweld â hi. Yn fwy penodol, rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau olrhain eraill ar gyfer y dibenion canlynol:
Cwcis hollol angenrheidiol
Mae angen y cwcis yma i’r wefan weithio ac ni fedrir eu troi i ffwrdd yn ein systemau. Fel arfer dim ond mewn ymateb i gamau gweithredu gennych chi sy’n cyfrif fel cais am wasanaethau, tebyg i osod eich dewisiadau preifatrwydd, mewngofnodi neu lenwi ffurflenni y cânt eu gosod. Gallwch osod eich porwr i rwystro neu’ch hysbysu am y cwcis hyn, ond ni fydd rhai rhannau o’r wefan yn gweithio wedyn. Nid yw’r cwcis hyn yn cadw unrhyw wybodaeth sy’n dangos pwy yw unigolyn.
- Mae CookieControl yn cadw dewisiadau cwci defnyddwyr
- Caiff PHPSESSID ei ddefnyddio i gadw a dynodi ID sesiwn unigryw defnyddwyr ar gyfer diben rheoli sesiwn defnyddiwr. Mae’r cwci yn gwci sesiwn a chaiff ei ddileu pan gaiff holl ffenestri’r porwr eu cau.
Cwcis targedu
Gall y cwcis hyn gael eu gosod drwy ein safle gan ddarparwyr trydydd parti yr ydym wedi ychwanegu eu gwasanaethau at ein tudalennau. Gall y cwmnïau hyn eu defnyddio i adeiladu proffil o’ch diddordebau a dangos hysbysebion perthnasol i chi ar safleoedd eraill. Nid ydynt yn cadw gwybodaeth bersonol yn uniongyrchol ond maent yn seiliedig ar ddynodi yn unigryw eich porwr a’ch dyfais rhyngrwyd. Os nad ydych yn caniatáu’r cwcis hyn, byddwch yn profi hysbysebion wedi ei dargedu’n llai ar y safleoedd eraill hynny.
- Os yw’r defnyddiwr yn caniatáu dadansoddeg yna bydd Google yn gosod cwpl o gwcis sy’n dechrau gyda _ga i gadw peth gwybodaeth am y defnyddiwr.
Os oes gennych gwestiynau am ein polisïau diogelu data neu sut ydym yn trin a defnyddio eich data personol, cysylltwch â dataprotection@learningandwork.org.uk.