- Trefniadau gweithio rhan-amser a hyblyg, yn cynnwys oriau cywasgedig a gweithio gartref
- 27 neu 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn dibynnu ar y swydd) ynghyd â gwyliau banc. Caiff tri o’r dyddiau hyn eu cymryd rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
- Cynnydd gwasanaeth hir i 29 neu 33 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth (yn dibynnu ar y swydd)
- 5 diwrnod o wyliau ar dâl i Ofalwyr bob blwyddyn, ynghyd ag amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus
- Darpariaethau hael am amser i ffwrdd o’r gwaith, yn cynnwys absenoldeb teuluol a thâl sylweddol uwch na’r isafswm statudol ar gyfer absenoldeb rhieni, absenoldeb salwch ac yn y blaen
- Trefniadau gweithio hyblyg rhwng y swyddfa a’r cartref
Ymuno â’n tîm
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gorff polisi ac ymchwil annibynnol gyda ffocws ar ddysgu gydol oes a gwaith gwell. Ein gweledigaeth yw cymdeithas deg a ffyniannus lle mae dysgu a gwaith yn galluogi pawb i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymchwilio yr hyn sy’n gweithio, dylanwadu ar bolisi a datblygu syniadau newydd i wella ymarfer.
Mae gan Dysgu a Gwaith ddyfarniad aur Buddsoddwr mewn Pobl. Mae’n awyddus i ddysgu o brofiadau ein staff ac yn ymroddedig i ddatblygu staff yn cynnwys hyfforddiant a chymorth mewnol ac allanol. Rydym yn Gyflogwr Pensiwn Byw.
Rydym yn angerddol am gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac mae hynny yn hybu ein gwerthoedd a’n cenhadaeth fel sefydliad. Rydym yn neilltuol o awyddus i dderbyn ceisiadau gan bob grŵp a gaiff eu tangynrychioli mewn cymdeithas.
Ein buddion i staff
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cynnig amrywiaeth o fuddion cyflogeion i staff.
Cydbwysedd gwaith-bywyd
Cyfleoedd dysgu, datblygu a hyfforddi
Yn cynnwys Lwfans Dysgu Personol o hyd at £200 y flwyddyn a chymorth ariannol ar gyfer cymwysterau proffesiynol ac academaidd perthnasol i’r swydd (prentisiaethau, arholiadau proffesiynol ac yn y blaen).
Cynllunio ar gyfer y dyfodol
- 8% o gyfraniad pensiwn cyflogwr, drwy aberth cyflog
- Yswiriant bywyd 3 gwaith y cyflog
Ychwanegol
- Llwyfan Disgownt Manwerthu Staff
- Cynllun seiclo i’r gwaith
- Cymorth ar gyfer profion llygaid a sbectol
- Rhaglen Cymorth Cyflogeion
- Talu am danysgrifiadau proffesiynol
Swyddi gwag cyfredol
Dim swyddi gwag ar hyn o bryd
Ymuno â’n cofrestr o ymgynghorwyr
Rydym bob amser yn edrych am gyfleoedd i gysylltu gyda gweithwyr proffesiynol o’r un anian i ymuno â’n cofrestr ymgynghorwyr. Byddwch angen hanes cryf o lwyddiant mewn dysgu, sgiliau neu gyflogaeth, gyda sgiliau rhagorol mewn ymchwil neu ddatblygu.
I wneud cais i ymuno â chofrestr ymgynghorwyr y Sefydliad Dysgu a Gwaith, llenwch y ffurflen fer hon neu i gael mwy o fanylion, cysylltwch â ni yn consultants@learningandwork.org.uk