Neidio i’r prif gynnwys

Calvin Lees

Swyddog Prosiect

Ymunodd Calvin ag L&W o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf lle’r oedd yn Brif Swyddog Addysg Oedolion. Mae gan Calvin 15 mlynedd o brofiad rheoli prosiectau gyda phrosiectau Ewropeaidd ESF ac ERDF, ac roedd yn aelod o fwrdd y Bartneriaeth Ddysgu, bwrdd rhwydwaith Dysgwyr Hŷn a chafodd brofiad o ddatblygu prosiectau ar draws y sectorau addysg 14-19 ac ôl-16, addysg a sgiliau. Ar hyn o bryd, Calvin sy’n gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno prosiectau ar draws Cymru yn cynnwys gwaith cyfredol ar gynllun Peilot Cyfrifon Dysgu Personol, Cronfa Datblygu Sgiliau A.B a gwerthuso ‘Gweithio dros Gymru’ i Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn arwain prosiect Symudedd KA1 Erasmus+ Cymru i rannu arfer gorau ar ymgyrchoedd Addysg Oedolion a Llysgenhadon Dysgwyr ar draws Ewrop.

Cyswllt

26 Tachwedd 2025

Adroddiad terfynol: Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru

Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.

Darllen mwy

21 Mai 2025

Chwyddo Lleisiau Dysgwyr: Cipolwg ar Gydweithio Rhyngwladol

Mae dylanwad cyd-ddysgwyr a phrofiadau bywyd yn werthfawr ar gyfer cynyddu cyfranogiad mewn dysgu gydol oes. Yr egwyddor hon yw sylfaen rhaglen Llysgennad Dysgwyr, cynllun a ddatblygwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar y cyd ag aelodau o Bartneriaeth Addysg Oedolion Cymru. Ffocws y rhaglen yw grymuso dysgwyr a sicrhau y caiff eu safbwyntiau eu clywed drwy gydweithio rhyngwladol ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.

Darllen mwy