Digwyddiadau
Rydym yn cynnig digwyddiadau hanfodol a gynlluniwyd i gefnogi datblygu proffesiynol a rhwydweithio ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y sector cyflogaeth a sgiliau. I noddi neu ddod yn bartner i ni, cysylltwch â ni.
Gorffennol
Camau Nesaf at Waith Teg yng Nghymru
Dydd Mercher 17 Ionawr 2024
Ar-lein
Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle pwysig ar gyfer trafod dyfodol arferion gwaith teg yng Nghymru. Fe wnaethom archwilio’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau wrth greu amgylchedd gwaith teg a chyfiawn i bawb yng Nghymru.
Gorffennol
Beth all Cymru ei ddysgu o strategaeth llythrennedd oedolion Iwerddon?
Dydd Gwener 22 Medi 2023
Ar-lein
“Literacy is a form of power. It offers a person the opportunity to carve out a place for themselves in the world. The ability to read and write, work with numbers and navigate the digital sphere can unleash an individual’s potential.” Oedd heriau taclo sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol oedolion yn cael eu harchwilio yn y digwyddiad ar-lein.
Gorffennol
Sut y gall dysgu helpu i gynyddu hyder, llesiant a phenderfyniad menywod yng Nghymru?
Dydd Gwener 22 Medi 2023
Ar-lein
Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan brif elusen cydraddoldeb rhywedd Cymru, Chwarae Teg a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn datgan y llu o fanteision i fenywod sy’n deillio o addysg oedolion.
Gorffennol
Diwrnod Datblygiad ESOL
Dydd Llun 27 Mawrth 2023
Caerdydd
Roedd y diwrnod ar gyfer darparwyr ac ymarferwyr ESOL i rwydweithio; i gael trafodaethau a mewnwelediad i arferion ymchwil ac addysgu; a hefyd i archwilio canfyddiadau’r Adolygiad ESOL yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru
Gorffennol
Cynhadledd Hydref Taith ar gyfer Addysg Oedolion yng Nymru
Dydd Mawrth 29 Tachwedd 2022
Ar-lein
Digwyddiad i ganfod mwy am Taith, y rhaglen newydd i alluogi sefydliadau yng Nghymru i ddatblygu cysylltiadau a phartneriaethau rhyngwladol Mae gan addysg oedolion lwybr cyllid yn Taith – cefnogi staff a dysgwyr i ddysgu, gweithio neu wirfoddoli dramor a rhoi cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth i drin blaenoriaethau o fewn y sector.
Gorffennol
Dathlu Addysg Oedolion
Dydd Iau 22 Medi 2022
Caerdydd
Yn ein digwyddiad Dathlu Addysg Oedolion clywsom drosom ein hunain straeon anhygoel enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion a arddangosodd y rhwystrau y mae dysgwyr yn gorfod eu goroesi i gyflawni eu huchelgais a sut y maae addysg wedi trawsnewid eu bywyd.
Gorffennol
Cynhadledd Addysg Oedolion: Creu cenedl ail gyfle
Dydd Iau 31 Mawrth 2022
Ar-lein
Gyda Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru yn genedl ail gyfle a dyletswydd newydd i hyrwyddo dysgu gydol oes yn cael ei hystyried fel rhan o ddeddfwriaeth newydd, nid oes amser pwysicach wedi bod i’r sector godi ei lais a dylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau. Cynhadledd Addysg Oedolion flynyddol hon wedi canolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei wneud i wireddu’r uchelgeisiau hyn.
Gorffennol
Confensiwn Cyflogadwyedd a Sgiliau Cymru 2021
Dydd Mercher 17 Tachwedd 2021
Ar-lein
Yn ein digwyddiad Dathlu Addysg Oedolion clywsom drosom ein hunain straeon anhygoel enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion a arddangosodd y rhwystrau y mae dysgwyr yn gorfod eu goroesi i gyflawni eu huchelgais a sut y maae addysg wedi trawsnewid eu bywyd.
Gorffennol
Cynhadledd Addysg Oedolion: Cymdeithas llesiant – rôl addysg oedolion yng Nghymru yn dilyn y pandemig
Dydd Llun 22 Chwefror 2021
Ar-lein
Mae adferiad o’r pandemig coronafeirws a’r her a gyflwynir o adael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi mwy o bwysigrwydd ar rôl dysgu gydol oes i sicrhau fod gan bobl a chymunedau y gwytnwch a’r sgiliau i sboncio’n ôl a symud ymlaen.