Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan brif elusen cydraddoldeb rhywedd Cymru, Chwarae Teg a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn datgan y llu o fanteision i fenywod sy’n deillio o addysg oedolion. Dengys y canfyddiadau bod canolbwyntio ar ddeilliannau fel cymwysterau yn creu risg o anwybyddu’r gwir werth sydd i addysg oedolion i fenywod wrth gynyddu eu hyder, llesiant a phenderfyniad.
Er bod yr adroddiad yn dangos yn glir beth yw manteision addysg oedolion i fenywod, yn llawer rhy aml mae menywod yn wynebu amrywiaeth o rwystrau ychwanegol a all eu hatal rhag cael mynediad at ddysg ac addysg. Mae cyfrifoldebau gofalu wedi eu cyfuno â diffyg gofal plant o safon uchel, fforddiadwy a hygyrch yn golygu bod defnyddio cyfleoedd i ddysgu yn her neilltuol i lawer o fenywod.
Siaradwyr:
- Catherine Marren, Ymchwilydd, Sefydliad Dysgu a Gwaith
- Beth Baldwin, Rheolwr Prosiect New Futures, Chwarae Teg
Gallwch ddal i fyny gyda’r digwyddiad isod.