Noddir gan Hefin David, AS
Diben y digwyddiad oedd trafod canfyddiadau adroddiad y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar ddyfodol polisi cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Roedd yn gyfle i ystyried y tirlun o amgylch datganoli polisïau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig a thrafod y goblygiadau ar gyfer Cymru.
Siaradwyr:
- Hefin David, AS
- Gareth Williams, Cadeirydd Panel Arbenigol y Comisiwn ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a Chadeirydd yr is-grŵp cyflogaeth
- Joshua Miles, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad Dysgu a Gwaith
- Jill Rutter, Pennaeth Polisi a Rhaglenni, Sefydliad Dysgu a Gwaith
13 Ionawr 2026
Rhaglen Tystiolaeth ar y Farchnad Lafur
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi comisiynu’r Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, i ddarparu adolygiadau tystiolaeth ac adnoddau ymarferol ar faterion allweddol y farchnad lafur i helpu llywio gwneuthurwyr polisi lleol.
26 Tachwedd 2025
Adroddiad terfynol: Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru
Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.
26 Tachwedd 2025
Angen cynllun newydd dewr i helpu 60,000 yn fwy o bobl i waith yng Nghymru a mynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd.
Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.
6 Tachwedd 2025
Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru
Daw’r ymchwil hwn gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, a gyllidwyd gan Serco, ar amser tyngedfennol i lywio oes newydd bwysig ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o strategaeth ehangach, a amlinellir ym Mhapur Gwyn Get Britain Working a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu i symleiddio a chynyddu dulliau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.
21 Hydref 2025
Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru
Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith.
8 Ebrill 2025
Serco yn cyhoeddi prosiect ymchwil ar y cyd i hybu marchnad swyddi Cymru
Mae Serco yn arwain cynllun ymchwil hollbwysig gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith sy’n anelu i sicrhau marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru.
29 Tachwedd 2024
A all Papur Gwyn Get Britain Working gael Cymru i weithio?
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Phapur Gwyn Get Britain Working y bu’n sôn amdano ers cryn amser. Mae’r Papur Gwyn yn cyflwyno diwygiadau sylweddol i’r ffordd y bydd cymorth cyflogaeth yn gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn Lloegr yn neilltuol, gyda’r nod o ddod ag iechyd, gwaith a sgiliau ynghyd mewn model cyflenwi sy’n fwy ymatebol yn lleol.
14 Tachwedd 2024
Sut mae Cynllun Restart Serco yn addasu i Ddeallusrwydd Artiffisial a’r Tirlun Digidol i baratoi gweithlu Cymru ar gyfer y dyfodol.
Mewn oes pan fo technoleg a marchnadoedd swyddi yn esblygu’n gyflym iawn, mae sicrhau fod gan unigolion y sgiliau angenrheidiol i ddatblygu yn dod yn hanfodol. Gan fod 26.5% sylweddol o’r boblogaeth oedran gwaith yng Nghymru yn parhau i fod wedi ymddieithrio o’r farchnad lafur, mae’n amlwg fod angen dulliau gweithredu newydd.
3 Medi 2024
Cynllun peilot Dyfodol Newydd Cymru
Nod ein rhaglen flaenllaw Dyfodol Newydd oedd cefnogi gweithwyr oedd yn dymuno newid gyrfa ac ail-sgilio fel canlyniad I bandemig Covid-19. Ariannwyd y gwaith gan Gronfa Cymorth Covid-19.