Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith heddiw wedi cyhoeddi penodiad Richard Spear fel Cadeirydd ei Grŵp Strategaeth Cymru ac Ymddiriedolydd Dysgu a Gwaith.

Bydd Richard yn helpu I roi arweinyddiaeth strategol a gwybodaeth ar gyfer gwaith Dysgu a Gwaith yng Nghymru ac ychwanegu llais o Gymru at waith Dysgu a Gwaith ar draws y Deyrnas Unedig. Bydd yn olynu Jeff Greenidge a arweiniodd y grŵp am dros ddegawd, gan helpu i sicrhau bod dysgu gydol oes a gwaith gwell yn ganolog i bolisi yng Nghymru.

Daw Richard â chyfoeth o brofiad i’r swydd gyda 25 mlynedd o brofiad mewn addysg a hyfforddiant a bu ganddo swyddi uwch o fewn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, yn cynnwys Pennaeth Cyllid Rhaglen ar gyfer Llywodraeth Cymru, Cyfarwyddwr Sefydliad Cenedlaethol Addysg Barhaus i Oedolion, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, Rheolwr Cyfarwyddwr ACT Training a Chadeirydd ALS Training.

Bu Richard yn aelod o nifer o bwyllgorau addysg a hyfforddiant allweddol a bu’n gadeirydd Panel Cymru y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau a’r Cytgord Cyffredin Credyd ar gyfer Cymru. Bu’n aelod o fwrdd Agored Cymru, YMCA Community College Cyf, Careers Choice Dewis Gyrfa Cyf ac ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd ACT Cyf, ALS Cyf a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Wrth siarad ar ei benodiad, dywedodd Richard:

“Rwyf wrth fy modd i ymuno â bwrdd y Sefydliad Dysgu a Gwaith ac i gadeirio Grŵp Strategaeth Cymru. Fel eiriolwr angerddol dros gydol gyfoes oes, rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at weledigaeth y Sefydliad ar gyfer cymdeithas lewyrchus a theg lle mae dysgu a gwaith yn rhoi cyfleoedd i bawb i wireddu eu potensial.”

Ychwanegodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith:

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Richard wrth lunio ein gweithgaredd yng Nghymru, gyda golwg at gyflawni ein nodau uchelgeisiol fel sefydliad gyda ffocws ar ddysgu gydol oes a gwaith gwell. Gydag etholiad 2026 i Senedd Cymru yn agosáu’n gyflym, mae gennym gyfle enfawr fel sefydliad i lunio’r agenda polisi a gwella bywydau pobl Cymru.”

Dywedodd Jeremy Moore, Cadeirydd a Llywydd y Sefydliad Dysgu a Gwaith:

“Rwy’n falch iawn i groesawu Richard i fwrdd Dysgu a Gwaith. Mae ganddo lawer iawn o brofiad a gwybodaeth am addysg a hyfforddiant yng Nghymru ac ymroddiad dwfn i ddarparu cyfleoedd i bawb yn ein cymdeithas i weithio a dysgu drwy gydol oes a gwireddu eu huchelgais. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef.wirioneddol wrando ar ddysgwyr yn eu holl amrywiaeth. Wedi’r cyfan, mae’r cwricwlwm yn eiddo iddyn nhw!

Richard Spear, Cadeirydd, Grŵp Strategaeth Cymru

Richard yw Rheolwr Gyfarwyddwr ACT Training, Cadeirydd ALS Training ac Uwch Ddeiliad Swydd y rhiant gorff Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC). Mae ganddo 27 mlynedd o brofiad mewn addysg a hyfforddiant a bu ganddo swyddi uwch yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, yn cynnwys Pennaeth Cyllid Rhaglen ar gyfer Addysg Ôl-16 a Hyfforddiant Llywodraeth Cymru, Cyfarwyddwr Cymru a Chynllunio Strategol yn y Sefydliad Cenedlaethol Addysg Barhaus i Oedolion (NIACE) a Phrif Weithredwr Gyrfa Cymru. Mae Richard yn aelod o fwrdd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) ac elusen atal ysmygu ASH Cymru. Bu’n aelod nifer o bwyllgorau addysg a hyfforddiant allweddol ac yn gadeirydd Panel Cymru y Gwasanaeth Gwella Sgiliau (LSIS) a Chytundeb Cyffredin Credyd Cymru, By hefyd yn aelod o fwrdd Agored Cymru, Coleg Cymunedol YMCA Cyf a Careers Choices Dewis Gyrfa Cyf. Yn ACT, ac o fewn cyd-destun blaenoriaethau strategol Grŵp CAVC, mae Richard yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol a pherfformiad cyffredinol y sefydliad.

26 Tachwedd 2025

Angen cynllun newydd dewr i helpu 60,000 yn fwy o bobl i waith yng Nghymru a mynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd.

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Sylw ar Gasnewydd – Lle o fewn lle

Mae Ufi VocTech Trust, mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, wedi cyd-lansio cynllun arloesol seiliedig ar le i integreiddio addysg a chyfleoedd datblygu sgiliau yng nghymunedau dwyrain Casnewydd.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Rhoi sylw i arwyr addysg oedolion – dathlu’r tiwtoriaid sy’n ysbrydoli, cefnogi a thrawsnewid bywydau bob dydd

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi lansio Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026, sy’n dathlu ymroddiad, angerdd ac effaith tiwtoriaid addysg oedolion ledled Cymru.

Darllen mwy

23 Hydref 2025

Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn falch i gael achrediad fel Cyflogwr Pensiwn Byw

Mae’r Pensiwn Byw yn darged cynilion gwirfoddol ar gyfer cyflogwyr sydd eisiau helpu gweithwyr, yn arbennig y rhai ar gyflog isel, i grynhoi pot pensiwn fydd yn rhoi digon o incwm i ddiwallu anghenion beunyddiol sylfaenol mewn ymddeoliad. Cafodd ei lansio ym mis Mawrth 2023.

Darllen mwy

21 Hydref 2025

Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru

Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith.

Darllen mwy

15 Hydref 2025

Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi’r Adroddiad Effaith diweddaraf ar gyfer 2024-25

Ein gweledigaeth yw cymdeithas deg a llewyrchus lle mae dysgu a gwaith yn galluogi pawb i wireddu eu potensial. Mae ein hadroddiad effaith diweddaraf yn rhoi sylw i’n gwaith rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025.

Darllen mwy

13 Hydref 2025

Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi Cyfarwyddwr newydd ar gyfer Cymru

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith heddiw wedi cyhoeddi penodiad Michelle Matheron yn Gyfarwyddwr Cymru Dysgu a Gwaith.

Darllen mwy

10 Hydref 2025

Paid Stopio Dysgu: Dathlu Llwyddiant yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion Eleni

Fis diwethaf roedd Abertawe yn llawn dathlu wrth i ni anrhydeddu llwyddiannau anhygoel dysgwyr sy’n oedolion yn y seremoni wobrwyo. Roedd yr ystafell yn llawn emosiwn, cynhesrwydd a straeon grymus am ddyfalbarhad a llwyddiant. Mae pob stori yn enghraifft wych o effaith dysgu gydol oes fel catalydd ar gyfer newid sy’n agor drysau, yn meithrin hyder ac yn sbarduno gwir drawsnewid.

Darllen mwy