Datblygwyd yr adnodd hwn gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W).

Mae tua 370,000 o ofalwyr yng Nghymru ac mae’r ffigwr yma’n codi. Amcangyfrifir y bydd nifer y gofalwyr yng ngwledydd Prydain wedi cynyddu tua 60% erbyn 2030 (Carers UK, 2001). Bydd tri pherson ymhob pump yn ofalwyr ar ryw adeg yn eu bywydau yng ngwledydd Prydain.

Mae ffigyrau Cyfrifiad 2011 yn dangos fod mwy na 21,000 o ofalwyr sy’n oedolion ifanc 14–25 oed yng Nghymru sy’n darparu cymorth a chefnogaeth i’w teuluoedd a chyfeillion. I berson ifanc a chanddo/i gyfrifoldebau gofal, mae symud ymlaen at addysg bellach a thu hwnt yn gallu bod yn heriol iawn. I rai, mae’r heriau hyn yn cynnig rhwystr o bwys rhag gallu cyflawni eu dyheadau.

Cafodd yr adnodd ymarferol hwn ei ehangu a’i ddatblygu o gyhoeddiad byrrach, a gynhyrchwyd yn 2015 gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Addysg Barhaus Oedolion (NIACE). Bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan reolwyr a staff yn gweithio mewn colegau addysg bellach yng Nghymru.

Pwrpas yr adnodd hwylus hwn yw gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofalwyr sy’n oedolion ifanc a’u hanghenion penodol. Mae’n amlinellu pwy yw gofalwyr sy’n oedolion ifanc, yr heriau a wynebant a sut all eu rolau gofalu effeithio ar eu haddysg.

Mae’n crynhoi at ei gilydd beth o’r arfer da sy’n cael ei ddatblygu’n barod mewn sawl coleg yng Nghymru, yn aml mewn partneriaeth â gwasanaethau gyrfaoedd lleol, ac mae’n cynnig argymhellion ar sut ellir cefnogi myfyrwyr sy’n ofalwyr i barhau â’u dysgu a chyflawni eu potensial.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

25 Hydref 2021

Diwygio’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi adborth ar y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (y Fframwaith) a gafwyd mewn gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ieuenctid a gynhaliwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar ran Llywodraeth Cymru.

Darllen mwy

11 Awst 2021

Gwerthuso’r Rhaglen Prentisiaeth Gradd

Datblygwyd yr adnodd hwn gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W). Mae tua 370,000 o ofalwyr yng Nghymru ac mae’r ffigwr yma’n codi.

Darllen mwy

9 Gorffennaf 2020

Pobl ifanc yn ardaloedd tlotaf Cymru yn dal i gael eu gadael ar ôl yn dilyn dau ddegawd o ddatganoli

Mae’r addysg a’r cyfleoedd cyflogaeth y gall pobl ifanc yng Nghymru eu disgwyl yn dal i gael eu penderfynu gan ble maent yn byw – yn hytrach na gan eu gallu – yn ôl data newydd a gyhoeddwyd gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru heddiw. Mae’r Mynegai Cyfle Ieuenctid, y cyntaf, o’i fath yn y wlad, yn dangos mai pobl ifanc sy’n tyfu fyny yn yr ardaloedd mwyaf amddifadus fel Torfaen, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent, sydd â’r lleiaf o fynediad i gyfleoedd, gan eu gadael yn wynebu anfantais dwbl.

Darllen mwy