Gan Rachel Terman, Athro Cyswllt Cymdeithaseg a Chyfarwyddwr Astudiaethau Graddedig, Prifysgol Ohio

I nodi’r Wythnos Addysg Oeddolion yng Nghymru, rwy’n bwrw golwg ar y ngwaith gyda Gweithdy DOVE, profiad grymus a drawsnewidiodd fy nealltwriaeth o addysg gymunedol.

Ym mis Mai eleni daeth Dr. Tiffany Arnold a finnau â grŵp o wyth o fyfyrwyr o Brifysgol Ohio i Gymru i dreulio deg diwrnod yn dysgu am y wlad gan ganolbwyntio yn benodol ar y cymariaethau rhwng cymunedau ôl-glo yn Appalachia a Cymru. Cafodd y rhaglen hon ei hysbrydoli, yn rhannol, gan y gyfnewidfa a gynhaliwyd dros ddegawdau gan academyddion, glowyr ac actifyddion cymunedol o Appalachia a Chymru a gafodd sylw yn y ffilm o 2016 After Coal: Welsh and Appalachian Mining Communities, a gyfarwyddwyd gan Tom Hansell, a’i lyfr dilynol o 2018 After Coal: Stories of Survival in Appalachia and Wales.

Roeddwn i fy hun wedi cymryd rhan yn y gyfnewidfa hon 18 mlynedd yn ôl fel myfyriwr gradd yn astudio gyda Patricia Beaver a Billy Schumann ym Mhrifysgol Talaith Appalachia yn Boone, Gogledd Carolina. Yn ystod yr ymweliad hwnnw i Gymru, fe wnaethom ni fel myfyrwyr dreulio tua mis yn byw mewn cwt sgowtiaid yn Ystradgynlais, yn dysgu am hanes y gweithfeydd glo a hanes cymunedol yng nghymoedd glofaol Cymru a threulio dyddiau yn gweithio gyda mudiadau cymunedol yn yr ardal.

“Roeddwn yn ddigon ffodus i dreulio’r rhan fwyaf o fy amser gyda Gweithdy DOVE, yn dysgu am eu gwaith ym maes addysg oedolion ac addysg yn y gymuned. Cafodd fy mhrofiad gyda DOVE argraff barhaol arnaf wrth i fynd ymlaen i ennill fy PhD mewn Cymdeithaseg Wledig ac Astudiaethau Menywod ym Mhrifysgol Talaith Pennsylvania ar ôl cael fy MA mewn Astudiaethau Appalachia ym Mhrifysgol Talaith Appalachia.”

Dysgu yn y Gymuned

Pan ymunais â’r gyfadran ym Mhrifysgol Ohio fel athro cynorthwyol yn 2015, bûm eto yn ddigon ffodus i fedru gweithio gyda Tiffany Arnold oedd â chefndir mewn Cwricwlwm a Chyfarwyddyd ac effaith lleoedd gwledig yn Appalachia ar brofiadau myfyrwyr coleg cenhedlaeth-gyntaf. Mae gan y ddwy ohonom ddiddordeb mawr mewn meithrin cysylltiadau rhwng myfyrwyr coleg a mudiadau cymunedol lleol ac adeiladu gwybodaeth. Yn 2018 fe wnaethom ddechrau cydweithio gyda Chynllun Ymchwil Colegol Appalachia,  rhaglen a noddir gan Gomisiwn Rhanbarthol Appalachia llywodraeth yr Unol Daleithiau, sy’n cefnogi hyfforddiant ymchwil cymwysedig ar gyfer myfyrwyr coleg o Appalachia sy’n gweithio ar gynlluniau datblygu economaidd yn eu cymunedau. Drwy’r rhaglen hon gallwn hyrwyddo dysgu tu allan i’r ystafell ddosbarth a chysylltu myfyrwyr gyda gwybodaeth ac arbenigedd lleol.

Ar yr un pryd, mae ein partneriaid masnachol yn cymryd rôl addysgwyr drwy gydweithio gyda myfyrwyr drwy’r prosiect. Mae ein myfyrwyr wedi gweithio’n bennaf gyda  Little Cities of Black Diamonds a Community Food Initiatives, dau fudiad yn ne-ddwyrain Ohio.

Rhannu Gwybodaeth

Drwy’r partneriaethau hyn gallwn gefnogi cyfnewid gwybodaeth, treftadaeth a diwylliant tra’n meithrin galluedd y gymuned. Mae ein partneriaid yn y gymuned yn ymuno â ni yn yr ystafell ddosbarth i addysgu myfyrwyr am genhadaeth a gwaith eu mudiad. Yna, gall myfyrwyr ymuno yn y gwaith yma a chyfrannu eu sgiliau a’u harbenigedd eu hunain i’n partner cymunedol drwy brosiectau fel cyflwyno sgyrsiau byr ar hanes lleol ar ddiwrnod cymunedol blynyddol, casglu a dadansoddi data arolwg o raglenni cymunedol, a chyfweld â’r sawl sy’n cymryd rhan i fesur effaith rhaglenni cymunedol.

Fe wnaeth dychwelyd i Gymru yn y gwanwyn eleni ac ymweld â Gweithdy DOVE unwaith eto gadarnhau pam fod y gyfnewidfa barhaus hon rhwng Appalachia a Chymru mor ystyrlon. Mae ein cymunedau yn wynebu heriau tebyg ond neilltuol ac yn mwynhau diwylliant cyfoethog yn seiliedig ar hanes o ddatblygu diwydiannol ac ymateb cymunedol ôl-ddiwydiannol.

Yn y Little Cities of Black Diamonds Day blynyddol eleni, a gynhaliwyd yn Nelsonville, Ohio ar 6  Medi, bu’r siaradwyr yn trafod hanes mudo a mewnfudo i ardal Little Cities wrth i’r gweithfeydd glo ddatblygu a ffynnu ddiwedd y 1800au. Roedd llawer o’r ymfudwyr o bentrefi glofaol yng Nghymru a chawsant ddylanwad ar y cymunedau yma nid yn unig fel gweithwyr ond hefyd drwy sefydlu teuluoedd, mudiadau ac addysgu eu cyd-lowyr am lafur cyfundrefnol yn ôl adre. Cymerodd fy myfyrwyr a finnau ran yn y diwrnod hanes lleol yma drwy gynnal arolwg ymysg y rhai oedd yn bresennol am effaith y digwyddiad ac ar ein bwrdd dangosais lawer o’r trysorau a gadwais i fy atgoffa am fy ymweliad i Gymru ym mis Mai, a ddenodd lawer o bobl a sgyrsiau i’n bwrdd.

Thema y Little Cities Day eleni oedd “Mwy i’w Ddweud” gyda ffocws ar gyfnewid straeon yn llafar a sut y caiff hanes newydd ei ddarganfod drwy’r amser. Yn sicr, mae mwy i gael ei ddweud, ei ddysgu a’i ddarganfod drwy’r cysylltiadau rhwng Appalachia a Chymru.

Cyn-fyfyrwyr o Brifysgol Ohio, myfyrwyr cyfredol ac aelodau’r gymuned yn dod ynghyd i ddysgu am hanes lleol yn ystod y Little Cities of Black Diamonds Day blynyddol, Medi 2025.

26 Tachwedd 2025

Angen cynllun newydd dewr i helpu 60,000 yn fwy o bobl i waith yng Nghymru a mynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd.

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Sylw ar Gasnewydd – Lle o fewn lle

Mae Ufi VocTech Trust, mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, wedi cyd-lansio cynllun arloesol seiliedig ar le i integreiddio addysg a chyfleoedd datblygu sgiliau yng nghymunedau dwyrain Casnewydd.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Rhoi sylw i arwyr addysg oedolion – dathlu’r tiwtoriaid sy’n ysbrydoli, cefnogi a thrawsnewid bywydau bob dydd

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi lansio Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026, sy’n dathlu ymroddiad, angerdd ac effaith tiwtoriaid addysg oedolion ledled Cymru.

Darllen mwy

23 Hydref 2025

Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn falch i gael achrediad fel Cyflogwr Pensiwn Byw

Mae’r Pensiwn Byw yn darged cynilion gwirfoddol ar gyfer cyflogwyr sydd eisiau helpu gweithwyr, yn arbennig y rhai ar gyflog isel, i grynhoi pot pensiwn fydd yn rhoi digon o incwm i ddiwallu anghenion beunyddiol sylfaenol mewn ymddeoliad. Cafodd ei lansio ym mis Mawrth 2023.

Darllen mwy

21 Hydref 2025

Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru

Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith.

Darllen mwy

15 Hydref 2025

Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi’r Adroddiad Effaith diweddaraf ar gyfer 2024-25

Ein gweledigaeth yw cymdeithas deg a llewyrchus lle mae dysgu a gwaith yn galluogi pawb i wireddu eu potensial. Mae ein hadroddiad effaith diweddaraf yn rhoi sylw i’n gwaith rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025.

Darllen mwy

13 Hydref 2025

Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi Cyfarwyddwr newydd ar gyfer Cymru

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith heddiw wedi cyhoeddi penodiad Michelle Matheron yn Gyfarwyddwr Cymru Dysgu a Gwaith.

Darllen mwy

10 Hydref 2025

Paid Stopio Dysgu: Dathlu Llwyddiant yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion Eleni

Fis diwethaf roedd Abertawe yn llawn dathlu wrth i ni anrhydeddu llwyddiannau anhygoel dysgwyr sy’n oedolion yn y seremoni wobrwyo. Roedd yr ystafell yn llawn emosiwn, cynhesrwydd a straeon grymus am ddyfalbarhad a llwyddiant. Mae pob stori yn enghraifft wych o effaith dysgu gydol oes fel catalydd ar gyfer newid sy’n agor drysau, yn meithrin hyder ac yn sbarduno gwir drawsnewid.

Darllen mwy