Yn ddiweddar bu’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gwerthuso Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith: Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru Bwriad y gwerthusiad oedd casglu’r gwersi allweddol o’r prosiect oedd yn canolbwyntio ar dde orllewin a gogledd ddwyrain Cymru cyn iddo gael ei gyflwyno trwy Gymru.

Roedd Cymorth yn y Gwaith yn rhaglen a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Ei nod oedd helpu pobl i reoli eu hiechyd ac aros mewn gwaith. Roedd hyn trwy ymyrraeth gynnar, gan roi mynediad cyflym am ddim i weithwyr at amrywiaeth o gymorth a therapïau ymarferol, personol i ymdrin â rhwystrau gan gynnwys iechyd meddwl a chyflyrau cyhyrol-ysgerbydol. Roedd hefyd yn darparu cyngor am ddim, cyfarwyddyd a hyfforddiant i gyflogwyr fel eu bod yn gallu rhoi cefnogaeth well i iechyd a lles eu gweithlu.

Cychwynnodd Cymorth yn y Gwaith ym Medi 2015 gyda’r nod o daclo tlodi ac allgauedd cymdeithasol. Yn ystod y blynyddoedd yn y cyfamser oedd yn cwmpasu’r pandemig, argyfwng costau byw a chynnydd mewn pobl nad ydynt yn weithredol yn y farchnad lafur fe wnaed yr angen am wasanaeth sy’n helpu pobl i aros yn y gwaith hyd yn oed yn fwy allweddol.

“Rydym yn gwybod bod pobl yng Nghymru yn gadael y gweithlu oherwydd salwch ac anabledd, a bod hyn yn fater o ddosbarth a rhyw gyda’r rhai sy’n gadael y farchnad lafur am resymau iechyd yn fwy tebygol o fod yn fenywod sy’n gweithio mewn sectorau â chyflogau isel. Mae gwasanaethau effeithiol yn y gwaith yn rhan allweddol o ymdrin â’r anghyfartaledd hwn.” 

Mae ein hadroddiad yn amlinellu’r ffyrdd yr oedd y cyfranogwyr a’r cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth hwn, ac mae’n dynodi gwersi pwysig a ddysgwyd ar gyfer gwasanaethau tebyg. Tair gwers allweddol oedd:

1. Mae model cyflawni hyblyg yn ganolog i lwyddiant

Roedd y gwasanaeth yn cynnig cymorth wedi ei deilwrio, a hyblygrwydd yn cynnwys y nifer o sesiynau a’u hamlder, os oedd y cymorth ar-lein neu wyneb yn wyneb, dewis o therapyddion, a dewis iaith. Gallai’r model cyflawni gael ei ymestyn ymhellach trwy edrych ar anghenion ehangach y cyfranogwyr fel cam-drin domestig neu reoli dyled, a chynnwys gweithgareddau mwy ataliol fel gweithdai llesiant neu reoli straen.

2. Rhoi cymorth effeithiol i gyflogwyr bach

Mae mentrau bach a chanolig yn llai tebygol o gael adnoddau fel gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol neu Adnoddau Dynol i roi cymorth i iechyd a llesiant gweithwyr, ac maent yn neilltuol o debygol o gael budd o’r cymorth. Dylai hyn gynnwys:

  • Cymorth wrth ddatblygu a gweithredu strategaethau llesiant, cynlluniau gweithredu a pholisïau Adnoddau Dynol ehangach
  • Cefnogaeth wrth ymwreiddio pwyslais ar lesiant wrth gynefino staff ac mewn prosesau adolygu perfformiad a datblygiad staff
  • Hyrwyddo elfen cymorth unigol y gwasanaeth i weithwyr
  • Cymorth i ddatblygu hwyluswyr llesiant yn y gweithle

3. Sicrhau bod y bobl iawn yn clywed am y gwasanaeth

Roedd hyrwyddo’r gwasanaeth yn her a gallai’r strategaethau llwyddiannus i oresgyn hynny gynnwys:

  • Ymgysylltu’n gyson â rhanddeiliaid ehangach a phartneriaid i gyrraedd unigolion a chyflogwyr, fel y Ffederasiwn Busnesau Bach, Busnes Cymru, Cymru’n Gweithio, Undebau Llafur, cyrff sy’n cynrychioli sectorau mewn diwydiant, a sefydliadau trydydd sector.
  • Integreiddio’r elfennau unigol a busnes o’r gwasanaeth, fel bod ymgysylltu â chyflogwyr yn gallu dod yn ddull o gyrraedd unigolion.
  • Darparu gwybodaeth wedi ei theilwrio, cymorth ac adnoddau i feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd eraill. Mae annog meddygon teulu i hyrwyddo hunangyfeirio yn debygol o fod yn fwy effeithiol na meddygon yn cyfeirio yn uniongyrchol.
  • Negeseuon clir i hyrwyddo gwasanaethau i unigolion gan gynnwys:
    • Y pwyslais unigryw ar roi cymorth i bobl sydd mewn gwaith
    • Y cyfle y mae’n ei gynnig i osgoi rhestrau aros y GIG a chael mynediad cyflym at therapïau.
    • Y ffaith ei fod am ddim i gysylltu ag o i’r rhai sy’n cymryd rhan.

Gwerthusiad o’r Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith Adroddiad terfynol

Lawrlwytho

Gwerthusiad o’r Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith – Crynodeb Gweithredol

Lawrlwytho

26 Tachwedd 2025

Angen cynllun newydd dewr i helpu 60,000 yn fwy o bobl i waith yng Nghymru a mynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd.

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Sylw ar Gasnewydd – Lle o fewn lle

Mae Ufi VocTech Trust, mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, wedi cyd-lansio cynllun arloesol seiliedig ar le i integreiddio addysg a chyfleoedd datblygu sgiliau yng nghymunedau dwyrain Casnewydd.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Rhoi sylw i arwyr addysg oedolion – dathlu’r tiwtoriaid sy’n ysbrydoli, cefnogi a thrawsnewid bywydau bob dydd

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi lansio Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026, sy’n dathlu ymroddiad, angerdd ac effaith tiwtoriaid addysg oedolion ledled Cymru.

Darllen mwy

23 Hydref 2025

Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn falch i gael achrediad fel Cyflogwr Pensiwn Byw

Mae’r Pensiwn Byw yn darged cynilion gwirfoddol ar gyfer cyflogwyr sydd eisiau helpu gweithwyr, yn arbennig y rhai ar gyflog isel, i grynhoi pot pensiwn fydd yn rhoi digon o incwm i ddiwallu anghenion beunyddiol sylfaenol mewn ymddeoliad. Cafodd ei lansio ym mis Mawrth 2023.

Darllen mwy

21 Hydref 2025

Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru

Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith.

Darllen mwy

15 Hydref 2025

Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi’r Adroddiad Effaith diweddaraf ar gyfer 2024-25

Ein gweledigaeth yw cymdeithas deg a llewyrchus lle mae dysgu a gwaith yn galluogi pawb i wireddu eu potensial. Mae ein hadroddiad effaith diweddaraf yn rhoi sylw i’n gwaith rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025.

Darllen mwy

13 Hydref 2025

Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi Cyfarwyddwr newydd ar gyfer Cymru

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith heddiw wedi cyhoeddi penodiad Michelle Matheron yn Gyfarwyddwr Cymru Dysgu a Gwaith.

Darllen mwy

10 Hydref 2025

Paid Stopio Dysgu: Dathlu Llwyddiant yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion Eleni

Fis diwethaf roedd Abertawe yn llawn dathlu wrth i ni anrhydeddu llwyddiannau anhygoel dysgwyr sy’n oedolion yn y seremoni wobrwyo. Roedd yr ystafell yn llawn emosiwn, cynhesrwydd a straeon grymus am ddyfalbarhad a llwyddiant. Mae pob stori yn enghraifft wych o effaith dysgu gydol oes fel catalydd ar gyfer newid sy’n agor drysau, yn meithrin hyder ac yn sbarduno gwir drawsnewid.

Darllen mwy