Bu’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, ysgolion bro a rhanddeiliaid ar draws dysgu oedolion yn y gymuned ac ysgolion i ddatblygu’r fframwaith yma.
Mae’r Model Dysgu fel Teulu yn fodel hyblyg a gynlluniwyd i helpu darparwyr addysg oedolion ac ysgolion i gynnwys dysgu fel teulu yn eu rhaglenni. Ei nod yw hybu dysgu fel teulu fel llwybr i ddysgu gydol oes, datblygu sgiliau, cyflogadwyedd a chyfleoedd swydd ar gyfer oedolion a phlant.
Mae’r adnodd yn dangos fod dysgu fel teulu yn newid bywydau. Pan gaiff cyfleoedd dysgu ar gyfer oedolion eu cysylltu gydag addysg plant yn y teulu, mae’n meithrin cymhelliant, hyder ac ymroddiad i ddysgu. Fel dull ymgysylltu, mae dysgu fel teulu yn datblygu sgiliau a llwybrau i ddysgu pellach a chyflogaeth.
Yn y digwyddiad cafodd cynrychiolwyr eu cyflwyno i’r Fframwaith a chael gwybodaeth werthfawr ar bartneriaethau dysgu fel teulu a’u heffaith.
Siaradwyr:
- Nadine Young, Pennaeth Polisi Cyflogadwyedd, Llywodraeth Cymru
- Kay Smith, Pennaeth Ymgyrchoedd a Pholisi, Sefydliad Dysgu a Gwaith
- Dr Suzanne Sarjeant, Cynghorydd Ysgolion Cymunedol, Llywodraeth Cymru
- Hayley Jacobs, Rheolwr Ysgol sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned, Rhondda Cynon Taf
- Jo Tincello, Rheolwr Ymgysylltu a Chontract Dysgu Oedolion yn y Gymuned, Partneriaeth Addysg Oedolion Gogledd Ddwyrain Cymru
- Emma McLoughlin, Dirprwy Bennaeth Ehangu Cyfranogiad, Coleg Caerdydd a’r Fro
- Laura Phillips, Cydlynydd Dysgu Gydol Oes, Sbardun – Dysgu Sir Benfro
- Gina Powell, Swyddog Ymgysylltu Teuluoedd, Ysgol Gynradd Pencaerau, Caerdydd
- Rhian Edwards, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi, Medr
- Christina Roy, Grŵp Dysgu Rhieni, Ysgol Uwchradd Cathays/Addysg Oedolion Cymru
- Steve Bell, AEF Estyn
- Hayley Brady, Pennaeth, Ysgol Gynradd Pencaerau, Caerdydd