Gan Mark Ravenhall, Ymgynghorydd Sefydliad Dysgu a Gwaith

Un o agweddau gorau cynllun strategol Medr oedd ei ffocws ar ‘anghenion y dysgwr—eu profiad, llwyddiant a llesiant—gan sicrhau y cânt eu cynnwys mewn gwneud penderfyniadau ac annog cyfranogiad mewn dysgu ar bob cam o fywyd’.

Fel rhywun a fu’n ysgrifennu am wrando ar ddysgwyr am dros ugain mlynedd, roedd hwn yn newyddion a groesawyd. Y dyddiau hyn, yr agwedd allweddol i fi yw sut mae ‘gwrando’ yn troi yn ‘weithredu’ ac yn arbennig y cwricwlwm addysg oedolion. Caiff y term ‘cwricwlwm’ ei ddefnyddio ddwywaith yn nogfen Medr ac yn gysylltiedig gyda mater cymwysterau. Mae’r ddolen hon yn adlewyrchu’r farn gyffredin fod cwricwlwm yn rhywbeth a gynlluniwyd ar gyfer dysgwyr yn hytrach na gyda dysgwyr.

Nid yw hyn yn broblem ar gyfer llawer o’r system addysg a sgiliau. Os oes angen cwricwlwm i alluogi peirianwyr i roi gwasanaeth i gerbydau trydan neu ffermydd gwynt, mae’n debyg mai arbenigwyr fyddai orau i gynllunio hynny. (Mae sut mae cymwysterau yn cadw’n gyfwastad gyda thechnolegau sy’n newid yn gyflym yn fater arall). Ond ar gyfer yr oedolion sydd fwyaf dan anfantais, mae cyd-ddylunio y cwricwlwm yn hanfodol.

Rhwystrau i ddysgu

Mae’r rhwystrau i ddysgu sy’n tueddu i wynebu unigolion o’r fath yn lluosog a chymhleth. Yn union fel nad yw anweithgaredd economaidd yn llwyr yn achos o ddiffyg gofal plant, cludiant gwael, heriau iechyd meddwl neu brinder Gwaith Teg, mae diffyg cyfranogiad mewn dysgu yn dibynnu ar gyfuniad o ffactorau.

Mae’r grwpiau sydd dan fwyaf o anfantais yn wynebu heriau lluosog, bydded hynny yn fynediad, cludiant, gofal plant neu henoed, sgiliau iaith neu hyd yn oed effeithiau profiadau addysgol gwael yr ysgol tebyg i ddiffyg hyder. I lawer,  cafodd y sefyllfa ei gwaethygu gan bandemig Covid a’r cyfnodau clo. Mae gan y materion wreiddiau dwfn a maent yn hirhoedlog.

Fodd bynnag, nid yw’r cyfan ar ben. Dangosodd gwaith diweddar Dysgu a Gwaith Cymru ar y Cwricwlwm Dinasyddion fod datrysiad. Y newyddion da yw fod gan bob oedolyn hefyd amrywiaeth o ‘alluoedd’ presennol y gellir adeiladu arnynt os caiff y cwricwlwm ei gynllunio ar y cyd gyda dysgwyr. Yn ystod 2023 a 2024 buom yn gweithio gyda phartneriaid mewn chwe ardal beilot gan weithio gydag awdurdodau lleol, darparwyr addysg oedolion, partneriaeth ysgol-coleg, mudiad iechyd meddwl, cymdeithas tai, lleoedd nodded, elusen amgylcheddol a dau sefydliad addysg uwch. Fe wnaeth yr amrywiaeth lleoliadau ac arbenigedd ein galluogi i brofi’r Cwricwlwm Dinasyddion mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Dechrau o ble mae’r dysgwr

Lle mae’r dull yn gweithio orau yw pan fo darparwyr yn dechrau o lle mae’r dysgwyr—drwy wrando. Ar gyfer rhai darparwyr roedd hyn yn golygu peidio cynnig ystod o opsiynau—neu ‘gynnyrch marchnata’ fel y galwodd un ef—ond dechrau gyda dalen wag o bapur.

Beth ydych chi ei eisiau?

Ar gyfer rhai oedolion gall hyn olygu:

  • Rydw i eisiau helpu fy mhlant gyda’u gwaith cartref
  • Mae fy mhlentyn yn cael ei fwlio, rydw i eisiau ei stopio.
  • Rydw i eisiau rheoli fy arian yn well.
  • Rydw i eisiau mynd allan o’r tŷ.

Teithiau dysgu

Roedd yn fraint i ni ddilyn teithiau dysgwyr o fannau dechrau o’r fath i ddarpariaeth arall—‘roedd fy mab mor falch ohonof’, yn cael tystysgrif—tebyg i gyrsiau DIY. Y llinyn cyffredin oedd addysgwyr yn gwrando ar y sgiliau a’r galluoedd oedd gan ddysgwyr eisoes ac adeiladu arnynt.

A’i roi yn syml, ni allwch gynllunio rhaglen ddysgu ymlaen llaw ar gyfer dysgwyr sy’n cael problemau lluosog. Nid yw hyn yn golygu nad yw’n rhaid i addysgwyr oedolion fod wedi paratoi. Roedd ymagweddau at addysgeg gyfranogol yn elfen allweddol o hyfforddiant addysgu o fewn y cynlluniau peilot. Cafodd athrawon eu synnu faint mor effeithlon oedd eu gwaith yn defnyddio’r dulliau hyn.

Er enghraifft, os yw’r dysgwr angen cymorth am gydnerthedd, ai’r ffordd orau o wneud hyn yw cwrs a gynlluniwyd ymlaen llaw dan yr enw  ‘Adeiladu Cydnerthedd’ neu weithgaredd tebyg ‘Adeiladu Gardd Gymunedol’? Gallai’r ddau arwain at fwy o gydnerthedd ond mae’r ail yn gymaint mwy. Y neges yw fod gan y dysgwr rywbeth i’w gyfrannu—nid model diffyg mohono—ac mae’r gymuned maes o law yn cael gofod gwyrdd newydd.

Mae adeiladu gardd yn cynnwys yr holl alluoedd yn y Cwricwlwm Dinasyddion neu  Sgiliau Bywyd ar gyfer Ewrop: iaith, rhifedd, ariannol, iechyd, digidol, dinesig, rhyngbersonol ac amgylcheddol. Y mater hollbwysig yw fod dysgwyr yn derbyn cydnabyddiaeth am sgiliau a enillwyd neu gynnydd mewn galluoedd. Mae hyn yn eu galluogi i bwyso a mesur eu cynnydd a’u llwyddiant a siarad gydag addysgwyr am eu camau nesaf.

Asesu galluoedd

Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu Offeryn Asesu Galluedd i gefnogi’r broses hon. Byddwn yn treialu’r dull mewn dau leoliad: dysgu fel teulu a thai cymdeithasol. Wrth wneud hynny byddwn yn gweithio gyda Phartneriaethau Dysgu fel Oedolion yn y Gymuned gan fod cydweithio rhwng asiantaethau yn allweddol i lwyddiant y Cwricwlwm Dinasyddion. Mae angen dull aml-asiantaeth i fynd i’r afael ag amddifadedd lluosog. Dangosodd gwaith ar y Cwricwlwm Dinasyddion yn Rochdale fod gan addysg oedolion fuddion cyllidol ym meysydd iechyd, diogelwch y cyhoedd a chydlyniaeth gymdeithasol.

Sgiliau Bywyd i Gymru

Un maen tramgwydd ar gyfer dysgwyr, fodd bynnag, yw’r term Cwricwlwm Dinasyddion, sy’n awgrymu ei fod yn ymwneud yn bennaf ag addysg dinasyddiaeth. Rydym hefyd yn ymchwilio gyda phartneriaid ail-enwi’r ymagwedd yn ‘Sgiliau Bywyd i Gymru’ i adlewyrchu’r ymagwedd mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Un o ganfyddiadau allweddol y cynlluniau peilot oedd yr aliniad agos rhwng y dull Cwricwlwm Dinasyddion â’r  Cwricwlwm i Gymru cyn-16. Un agwedd ganolog oedd cysyniad ‘parodrwydd’. Sut ydyn ni’n galluogi oedolion sy’n ddysgwyr i fod yn ‘barod’ i chwarae eu rhan fel dinasyddion?

Beth bynnag y byddwn yn ei alw, efallai ei bod yn amser am gwricwlwm addysg i Gymru—ac un sy’n wirioneddol wrando ar ddysgwyr yn eu holl amrywiaeth. Wedi’r cyfan, mae’r cwricwlwm yn eiddo iddyn nhw!

14 Ionawr 2026

Partneriaethau Dysgu Oedolion yng Nghymru

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg i oedolion a theuluoedd, a gyflwynir mewn lleoliadau yn y gymuned i ddiwallu anghenion lleol. Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion ym mhob ardal Awdurdod Lleol ac arweinyddiaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned ym mhob Awdurdod Lleol a Sefydliad Addysg Bellach.

Darllen mwy

13 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion

Mae enwebiadau wedi agor gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026 Caiff y gwobrau blynyddol eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a maent yn dathlu llwyddiannau eithriadol unigolion a phrosiectau cymunedol yng Nghymru sy’n dangos angerdd, ymroddiad ac egni rhagorol i’w gwella eu hunain a’u cymuned drwy ddysgu gydol oes.

Darllen mwy

1 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid

Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid blynyddol yn dathlu gwaith tiwtoriaid a mentoriaid wrth gefnogi dysgu gydol oes ledled Cymru. Rydym yn gwahodd enwebiadau ar ran unigolion rhagorol y mae eu hymroddiad, gwybodaeth a sgiliau addysgu wedi rhoi’r hyder i oedolion gymryd rhan mewn dysgu a thrawsnewid eu bywydau.

Darllen mwy

17 Rhagfyr 2025

Cymhelliannau, Dyheadau a Rhwystrau Dysgu Oedolion

This research was in partnership with the Learning and Work Institute Cymru to gain greater insight into adult learner experiences of further and higher education in Wales as this is largely a missing voice from the recent literature.

Darllen mwy

3 Rhagfyr 2025

Dysgu fel Teulu

Mae dysgu fel teulu yn newid bywydau. Pan fo cyfleoedd dysgu ar gyfer oedolion wedi eu cysylltu gydag addysg plant yn y teulu, dengys tystiolaeth fod hynny yn meithrin cymhelliant, hyder ac ymroddiad i ddysgu.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Sylw ar Gasnewydd – Lle o fewn lle

Mae Ufi VocTech Trust, mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, wedi cyd-lansio cynllun arloesol seiliedig ar le i integreiddio addysg a chyfleoedd datblygu sgiliau yng nghymunedau dwyrain Casnewydd.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Rhoi sylw i arwyr addysg oedolion – dathlu’r tiwtoriaid sy’n ysbrydoli, cefnogi a thrawsnewid bywydau bob dydd

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi lansio Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026, sy’n dathlu ymroddiad, angerdd ac effaith tiwtoriaid addysg oedolion ledled Cymru.

Darllen mwy

10 Hydref 2025

Paid Stopio Dysgu: Dathlu Llwyddiant yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion Eleni

Fis diwethaf roedd Abertawe yn llawn dathlu wrth i ni anrhydeddu llwyddiannau anhygoel dysgwyr sy’n oedolion yn y seremoni wobrwyo. Roedd yr ystafell yn llawn emosiwn, cynhesrwydd a straeon grymus am ddyfalbarhad a llwyddiant. Mae pob stori yn enghraifft wych o effaith dysgu gydol oes fel catalydd ar gyfer newid sy’n agor drysau, yn meithrin hyder ac yn sbarduno gwir drawsnewid.

Darllen mwy