Cafodd offeryn partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a’i gynhyrchu ar y cyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Phartneriaethau lleol Dysgu Oedolion yn y Gymuned gyda mewnbwn gan randdeiliaid cenedlaethol yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Estyn, Addysg Oedolion Cymru, ColegauCymru, Gyrfa Cymru a Holex.
Cynlluniwyd yr offeryn i gefnogi Partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ledled Cymru i gydweithio’n fwy effeithlon. Mae’n rhoi fframwaith wedi ei strwythuro ar gyfer cynllunio, adolygu a gwella eu harferion cydweithio..
Mae’r buddion allweddol yn cynnwys
- Dynodi meysydd i gael eu gwella: Manylu ar gyfleoedd i wella arferion cydweithio.
- Mapio cydweithio cyfredol: Deall sut mae Partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cydlynu eu gweithgareddau, yn strategol a hefyd yn weithredol, ar hyn o bryd.
- Rhoi dull gweithredu cyson: Manteisio o fodel safonol y gellir ei weithredu ledled Cymru tra’n dal i adlewyrchu gwahaniaethau lleol a rhanbarthol
Mae’r offeryn yn defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth o
- adolygiad cyflym o dystiolaeth ar arfer cyfredol yng ngwaith y partneriaethau yng Nghymru a modelau partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned eraill o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol
- chwe cyfweliad cwmpasu gyda rhanddeiliaid strategol cenedlaethol a gynigiodd amrywiaeth o safbwyntiau ar gryfderau a heriau cyfredol y partneriaethau,
- cyfweliadau manwl gyda phum partneriaeth leol a ddewiswyd i ddangos amrywiaeth o ymarfer sy’n esblygu mewn gweithio partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned
- gweithdy wyneb yn wyneb ar gyfer partneriaethau a rhanddeiliaid, i adolygu a datblygu’r offeryn
- dau gyfarfod o grŵp ymgynghori strategol y prosiect.
Rhannwyd yr adnodd yn brif maes sy’n adlewyrchu themâu lefel uchel o ymarfer partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Offeryn ar gyfer Ymarfer a Darpariaeth Effeithlon (PDF)
Gall Partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned yng Nghymru gael mynediad i’r offeryn ar y ddolen isod
LawrlwythoOfferyn ar gyfer Ymarfer a Darpariaeth Effeithlon (Excel)
Gall Partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned yng Nghymru hefyd gael mynediad at fersiwn Excel o’r offeryn
Lawrlwytho