Mae darlith Raymond Williams yn gyfle pwysig i adlewyrchu ar waith a bywyd Raymond Williams, yn arbennig yng nghyd-destun addysg oedolion a’i photensial i drawsnewid. Mae’r ddarlith yn denu cynulleidfa fawr a gwybodus o bobl broffesiynol o bob rhan o gymdeithas ddinesig yng Nghymru a thu hwnt. Caiff ei rhedeg fel partneriaeth rhwng y Sefydliad Dysgu a Gwaith a’r Brifysgol Agored yng Nghymru ar hyn o bryd.

Cynhaliwyd y ddarlith gyntaf i goffau ei waith gan NIACE Cymru (Sefydliad Cenedlaethol Addysg Barhaus Oedolion) a’r WEA (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr) De Cymru yn 1989. Cynhaliwyd y ddarlith ddiweddaraf yn 2021 gan nodi canmlwyddiant geni Raymond Williams. Roedd 2021 hefyd yn ganmlwyddiant y Sefydliad Dysgu a Gwaith – cafodd Sefydliad Prydeinig Addysg Oedolion ei greu yn 1921, a daeth y Sefydliad yn ddiweddarach yn NIACE. Unodd NIACE gyda’r Ganolfan Cynhwysiant Economaidd a Chymdeithasol yn 2015 i ddod y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Am Raymond Williams

Roedd Raymond Williams yn nofelydd, beirniad diwylliannol, sosialydd deallusol ac addysgwr oedolion. Wedi ei eni yn 1921 ym mhentref Pandy ger y Fenni, astudiodd Williams ym Mhrifysgol Caergrawnt a daeth yn diwtor gyda’r WEA. Cyhoeddodd NIACE ei  ystod helaeth o draethodau a darlithoedd ar addysg yn 1993. Mae’r traethodau yn cynnig dadansoddiad o’r amodau ar gyfer cymdeithas sy’n dysgu, roedd Williams yn lladmerydd dros addysg oedolion ryddfrydol. Mae Josh Cole hefyd yn cynnig y sylwebaeth yma ar Raymond Williams a’i gyfraniad at addysg oedolion.

Ymchwilio hanes cyfoethog ein Darlithoedd Raymond Williams

Gallwch weld recordiadau o ddarlithoedd y gorffennol gan siaradwyr o fri fel Kirsty Williams AS, Syr Michael Marmot, yr Athro Tim Blackman a Michael Sheen yn ein rhestr chwarae arbennig.

2025

Chwalu drwy’r llinell tiodi

Dr Sabrina Cohen-Hatton, KFSM
Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Archub Gorllewin Sussex

Gweld darlith

2021

Addysg ddefynyddiol – beirniadaeth a dathliad

Yr Athro Tim Blackman
Is-Ganghellor, Y Brifysgol Agored

Gweld darlith

2018

Yr ysgogiad dyfnaf: Addysg oedolion, economi, democratiaeth a chymedeithas

Kirsty Williams AC
Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg

Gweld darlith

2017

Pan mae coeden yn cwympo

Michael Sheen
Actor ac Ymgyrchydd

Gweld darlith

2016

Y bwlch iechyd: Her byd anghyfartal

Syr Michael Marmot
Ymchwilydd

Gweld darlith – rhan 1
Gweld darlith – rhan 2

2015

Cyfnodau peryglus: Dysgu sut i’w trin

Tom Schuller
Awdur

Gweld darlith

27 Ebrill 2026

Wythnos Addysg Oedolion

Mae Wythnos Addysgwyr Oedolion yn ymgyrch flynyddol sy’n ysbrydoli oedolion i gymryd cam yn ôl i ddysgu er mwyn gwella eu hyder a’u lles, newid gyrfaoedd a symud ymlaen yn y gwaith, darganfod hobïau newydd a chysylltu â phobl eraill neu i geisio cyngor ac arweiniad ar y llwybrau presennol sydd ar gael iddynt.

Darllen mwy

23 Mawrth 2026

Gwobr am gyfraniad eithriadol i ddysgu gydol oes i AS sy’n ymddeol

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

Darllen mwy

18 Mawrth 2026

Cyfnod heriol? Amser am gwricwlwm heriol.

Mae addysg ôl-16 yng Nghymru yn mynd drwy gyfnod o arloesi a newid.

Darllen mwy

14 Ionawr 2026

Partneriaethau Dysgu Oedolion yng Nghymru

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg i oedolion a theuluoedd, a gyflwynir mewn lleoliadau yn y gymuned i ddiwallu anghenion lleol. Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion ym mhob ardal Awdurdod Lleol ac arweinyddiaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned ym mhob Awdurdod Lleol a Sefydliad Addysg Bellach.

Darllen mwy

13 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion

Mae enwebiadau wedi agor gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026 Caiff y gwobrau blynyddol eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a maent yn dathlu llwyddiannau eithriadol unigolion a phrosiectau cymunedol yng Nghymru sy’n dangos angerdd, ymroddiad ac egni rhagorol i’w gwella eu hunain a’u cymuned drwy ddysgu gydol oes.

Darllen mwy

1 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid

Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid blynyddol yn dathlu gwaith tiwtoriaid a mentoriaid wrth gefnogi dysgu gydol oes ledled Cymru. Rydym yn gwahodd enwebiadau ar ran unigolion rhagorol y mae eu hymroddiad, gwybodaeth a sgiliau addysgu wedi rhoi’r hyder i oedolion gymryd rhan mewn dysgu a thrawsnewid eu bywydau.

Darllen mwy

17 Rhagfyr 2025

Cymhelliannau, Dyheadau a Rhwystrau Dysgu Oedolion

This research was in partnership with the Learning and Work Institute Cymru to gain greater insight into adult learner experiences of further and higher education in Wales as this is largely a missing voice from the recent literature.

Darllen mwy

3 Rhagfyr 2025

Dysgu fel Teulu

Mae dysgu fel teulu yn newid bywydau. Pan fo cyfleoedd dysgu ar gyfer oedolion wedi eu cysylltu gydag addysg plant yn y teulu, dengys tystiolaeth fod hynny yn meithrin cymhelliant, hyder ac ymroddiad i ddysgu.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Sylw ar Gasnewydd – Lle o fewn lle

Mae Ufi VocTech Trust, mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, wedi cyd-lansio cynllun arloesol seiliedig ar le i integreiddio addysg a chyfleoedd datblygu sgiliau yng nghymunedau dwyrain Casnewydd.

Darllen mwy