Yn ei araith i’r Gynhadledd Addysg Oedolion yn 2022 ymrwymodd Jeremy Miiles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i safleoli Cymru fel cenedl ail gyfle; lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu.

Bydd angen llawer o heyrn yn y tân i wireddu’r uchelgais ganmoladwy hon, ac ers gwneud yr ymrwymiad mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal nifer o weithgareddau i’n cael yno yn cynnwys gwneud dysgu gydol oes yn swyddogaeth statudol o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd a datblygu dangosyddion allweddol i gefnogi addysg oedolion o fewn y rhaglen lywodraethu.

Ond efallai mai un o’r cynigion mwyaf blaengar yw peilota Cwricwlwm Dinasyddion ar gyfer Cymru. Cafodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith y dasg gan y Gweinidog, gan weithio gydag ystod eang o bartneriaid, i brofi a datblygu Cwricwlwm Dinasyddion – gan ddysgu o’n gwaith ein hunain mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ac ar y diwygiadau diweddar sydd yn y Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion.

Ond beth yw Cwricwlwm Dinasyddion?

Mae’n swnio fel y dylai fod yn gyfrol swmpus, wedi’i hysgrifennu gyda chwilsen neu wedi ei hanelu at athrawon, ond mewn gwirionedd mae’n syml. Mae’r Cwricwlwm Dinasyddion ynglŷn â rhoi’r galluoedd neu’r dulliau i bobl i gyflawni eu potensial.

Gall dinasyddion swnio fel term sy’n codi braw, ond pan feddyliwch amdano rydym i gyd yn gweithredu fel dinasyddion bob dydd heb hyd yn oed sylweddoli hynny. Mae’n cyffwrdd â phob maes o’n bywydau, bydded hynny eich man gwaith, gweithgareddau diwylliannol fel mynd i edrych ar rygbi ar y penwythnos, ymuno â dosbarth gwneud gemwaith neu gwyno wrth eich cynghorydd lleol am draffig ar eich stryd. Bob tro y byddwch yn rhyngweithio gyda phobl eraill, gwnewch hynny fel rhan o gyfan mwy – fel dinesydd.

Ond yn anffodus, nid oes gan bawb yr un galluedd pan ddaw i gyflawni eu potensial. Er enghraifft efallai na fyddai person nad yw’n gwybod sut i ddefnyddio Zoom yn medru gwneud apwyntiad i weld meddyg a gallai eu hiechyd ddioddef fel canlyniad. Neu efallai nad oes gan rywun sy’n colli ei swydd y ddirnadaeth ariannol i wybod beth i’w wneud gyda’u taliad dileu swydd i sicrhau eu dyfodol ariannol.

Mae’r Cwricwlwm Dinasyddion wedi dynodi pedwar galluedd: digidol, iechyd, ariannol a dinesig, ac rwy’n sicr fod gan bawb ohonom wendidau ar ryw lefel yn y meysydd hyn sy’n ein hatal rhag cyflawni ein potensial.

Felly beth sydd gan hyn i’w wneud gyda dysgu?

Felly sut mae’r Cwricwlwm Dinasyddion yn helpu i oresgyn yr heriau unigol yma? Wel, dyma lle daw dysgu gydol oes i mewn iddi – y saws hud yng nghawl y cwricwlwm dinasyddion. Mae Raymond Williams yn rhoi esboniad gwych o pam fod dysgu gydol oes yn gweithio wrth ein galluogi i ymdrin â newidiadau cyflym o’n cwmpas, drwy ddweud fod dysgu gydol oes yn:

  • ein galluogi i wneud synnwyr o newid – drwy sicrhau gwybodaeth, syniadau, gwybodaeth a meddwl beirniadol a heriol;
  • ein galluogi i addasu i newid – drwy fanteisio i’r eithaf ar addysg, ei chadw a’i chymhwyso.
  • ein galluogi i lunio newid – bod yn awduron newid yn hytrach na dioddef oherwydd newid, gan ganfod ein ffordd o amgylch risg ac ansicrwydd.

Enghraifft ymarferol: stori Natalie

Fel sefydliad mae’n fraint fawr i ni drefnu Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion sy’n cydnabod oedolion sydd wedi goresgyn gwir adfyd. Un stori o’r fath sy’n dangos yr effaith y gallai Cwricwlwm Dinasyddion ei gael ar genedl ail gyfle yw Natalie Lintern.

Enillodd ein Gwobr Dysgu fel Teulu yn 2019. Ar ôl nifer o berthnasoedd lle cafodd ei cham-drin a brwydro yn erbyn bod yn gaeth i gyffuriau, roedd yn magu ei thri phlentyn ifanc ar ben ei hun. Yn ei geiriau ei hun roedd “bywyd yn boen”. Roedd wedi dod yn ynysig gyda diffyg hyder, hunan-dyb isel a phryder yn gwneud iddi deimlo na fedrai adael y tŷ am chwe mis.

Wrth ddisgrifio’r cyfnod hwnnw, dywedodd: “Y chwe mis hynny o fy mywyd oedd pan oeddwn ar fy isaf. Roedd dau o’r plant yn yr ysgol ac yn y feithrinfa, felly dim ond fi a’r babi oedd adre. Rydw i bob amser wedi edrych ar ôl fy mhlant, roeddent bob amser yn cael digon o fwyd ac yn lân, ond bodoli oeddwn i, nid byw. Nid oedd unrhyw drefn, roedd dydd yn nos a nos yn ddydd.

Cafodd Natalie gefnogaeth Dechrau’n Deg a rhaglen dysgu fel teulu Sbardun yn ysgol ei phlant. Dysgu Sir Benfro oedd yng ngofal y rhaglen. Rhoddodd dysgu fel teulu yr hyder i Natalie gwblhau Pecyn Cymorth adferiad 12-wythnos ar gyfer goroeswyr trais domestig a gyflwynwyd gan Tîm o Amgylch y Teulu. Ers hynny mae wedi mynychu cyrsiau eraill gan Sbardun i deuluoedd a dau gwrs ychwanegol – rhaglen MPower ar gyfer menywod gyda diffyg hunanhyder a rhaglen Rhianta Blynyddoedd Cynnar.

Mae bywyd Natalie wedi newid yn sylweddol. Mae’n mynd â’i phlant i’r ysgol bob dydd – mae presenoldeb y ddau blentyn hynaf wedi cyrraedd 100%. “Mae wedi newid cymaint ar fy mywyd; doeddwn i ddim yn mynd allan o’r blaen. Nawr rydw i’n medru mynd â fy mhlant i’r ysgol bob dydd, rydw i’n medru gwneud gweithgareddau tu fas, mynd ar y bws i weld fy mam, gallaf fynd i siopa bob dydd, gallaf wneud beth bynnag rydw i moen, a rydyn ni yn gwneud y cyfan fel teulu.”

Mae wedi mynd ymlaen i ystyried gyrfa fel gweithiwr cymorth cyffuriau. Dywedodd: “Rydw i eisiau helpu pobl eraill a all weld eu hunain yn fy stori. Rydw i eisiau i bobl sy’n mynd drwy broblemau i weld sut y gallais droi pethau o gwmpas. Roedd gen i rwydwaith gwych yn fy nghefnogi a byddwn yn annog pobl i ofyn am help. Mae’r dyfodol yn gyffrous.”

Fe wnaeth dysgu helpu Natalie i droi ei bywyd o amgylch a chafodd effaith gadarnhaol ar ei phlant hefyd. Fe wnaeth ei galluogi i wneud y pethau bob dydd mewn bywyd sy’n ein gwneud yn ddinasyddion – gan ei helpu hi a’i theulu i gyflawni eu potensial.

Nid dim ond beth ydych chi’n wneud, ond sut y gwnewch hynny!

Yr hyn sy’n gwneud y Cwricwlwm Dinasyddion yn wirioneddol wahanol yw’r ffordd y cafodd ei ddatblygu a’i addysgu. Nid yw am rywun clyfar yn ysgrifennu cwricwlwm ac yn cynnwys y pynciau y credant y dylai myfyrwyr eu dysgu. Yn hytrach, mae am weithio gyda dysgwyr ar yr hyn maent eisiau ddysgu a sut y dymunant wneud hynny.

Dyna beth sy’n ei gysylltu mor gryf gyda’r Cwricwlwm i Gymru sy’n cael ei ymestyn mewn ysgolion ar hyn o bryd gan nad yw’r pwyslais ar ddysgu caeth o’r brig i lawr ond ar rymuso unigolion i gyrraedd eu potensial drwy eu dysgu eu hunain.

Felly beth sydd nesaf?

Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid rhagorol i ddatblygu 6 cynllun peilot gyda ffocws ar ystod eang o faterion o iechyd i ddinasyddiaeth fyd-eang, i adolygiadau gyrfa canol bywyd, i ysgolion bro a llawer o bethau yn y canol. Byddwn yn rhoi cynnig ar bethau newydd a gwneud hynny gyda dysgwyr. Bydd yr hyn a gawn o’r arbrofion hyn yn rhoi rhywbeth i ni gnoi cil arno wrth ystyried sut y gellid ymestyn Cwricwlwm Dinasyddion Cymru a helpu i gyflawni uchelgais ddechreuol y Gweinidog o genedl ail gyfle, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu. 

Cenedl o Ail Gyfle: lle nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu

Lawrlwytho

Stori Natalie Lintern

14 Ionawr 2026

ESOL Fforwm

Mae ein gwaith yn cynnwys adeiladu’r dystiolaeth o botensial Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) i gael effeithiau cadarnhaol ar iechyd, cyflogaeth ac addysg pobl a’u cyfranogiad mewn cymunedau.

Darllen mwy

14 Ionawr 2026

Partneriaethau Dysgu Oedolion yng Nghymru

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg i oedolion a theuluoedd, a gyflwynir mewn lleoliadau yn y gymuned i ddiwallu anghenion lleol. Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion ym mhob ardal Awdurdod Lleol ac arweinyddiaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned ym mhob Awdurdod Lleol a Sefydliad Addysg Bellach.

Darllen mwy

13 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion

Mae enwebiadau wedi agor gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026 Caiff y gwobrau blynyddol eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a maent yn dathlu llwyddiannau eithriadol unigolion a phrosiectau cymunedol yng Nghymru sy’n dangos angerdd, ymroddiad ac egni rhagorol i’w gwella eu hunain a’u cymuned drwy ddysgu gydol oes.

Darllen mwy

1 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid

Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid blynyddol yn dathlu gwaith tiwtoriaid a mentoriaid wrth gefnogi dysgu gydol oes ledled Cymru. Rydym yn gwahodd enwebiadau ar ran unigolion rhagorol y mae eu hymroddiad, gwybodaeth a sgiliau addysgu wedi rhoi’r hyder i oedolion gymryd rhan mewn dysgu a thrawsnewid eu bywydau.

Darllen mwy

17 Rhagfyr 2025

Cymhelliannau, Dyheadau a Rhwystrau Dysgu Oedolion

This research was in partnership with the Learning and Work Institute Cymru to gain greater insight into adult learner experiences of further and higher education in Wales as this is largely a missing voice from the recent literature.

Darllen mwy

3 Rhagfyr 2025

Dysgu fel Teulu

Mae dysgu fel teulu yn newid bywydau. Pan fo cyfleoedd dysgu ar gyfer oedolion wedi eu cysylltu gydag addysg plant yn y teulu, dengys tystiolaeth fod hynny yn meithrin cymhelliant, hyder ac ymroddiad i ddysgu.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Sylw ar Gasnewydd – Lle o fewn lle

Mae Ufi VocTech Trust, mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, wedi cyd-lansio cynllun arloesol seiliedig ar le i integreiddio addysg a chyfleoedd datblygu sgiliau yng nghymunedau dwyrain Casnewydd.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Rhoi sylw i arwyr addysg oedolion – dathlu’r tiwtoriaid sy’n ysbrydoli, cefnogi a thrawsnewid bywydau bob dydd

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi lansio Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026, sy’n dathlu ymroddiad, angerdd ac effaith tiwtoriaid addysg oedolion ledled Cymru.

Darllen mwy

10 Hydref 2025

Paid Stopio Dysgu: Dathlu Llwyddiant yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion Eleni

Fis diwethaf roedd Abertawe yn llawn dathlu wrth i ni anrhydeddu llwyddiannau anhygoel dysgwyr sy’n oedolion yn y seremoni wobrwyo. Roedd yr ystafell yn llawn emosiwn, cynhesrwydd a straeon grymus am ddyfalbarhad a llwyddiant. Mae pob stori yn enghraifft wych o effaith dysgu gydol oes fel catalydd ar gyfer newid sy’n agor drysau, yn meithrin hyder ac yn sbarduno gwir drawsnewid.

Darllen mwy