Rôl allweddol a chyfle i Medr

Gallai cyflwyno’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr) newid dulliau o hybu tegwch mewn addysg drydyddol yng Nghymru yn sylweddol. Mae nifer o resymau dros fod yn weddol optimistaidd ynglŷn â’r corff newydd a sut y gallai drawsnewid y dirwedd ôl-orfodol.

Mae gan y corff newydd nifer o ddyletswyddau sy’n rhoi ymdeimlad cryf o bwrpas iddo. Yn ogystal â’r ddyletswydd i hybu cyfle cyfartal, bydd y dyletswyddau hyn i gyd yn effeithio ar degwch mewn addysg drydyddol mewn rhyw ffordd, ac yn darparu sail resymegol gychwynnol gadarn ar gyfer polisïau cyllido a rheoleiddio Medr. Yr her i Medr fydd gweithredu’r dyletswyddau hyn, a throi adrannau pwysig o statud yn gamau gweithredu yn y byd go iawn.

Gallai bodolaeth corff sydd â goruchwyliaeth ariannol a rheoleiddiol dros bob math o ddarpariaeth (chweched dosbarth, addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned, dysgu seiliedig ar waith ac addysg uwch) fod yn fuddiol ynddo’i hun. Yn ymarferol, gallai a dylai Medr fod yn edrych ar faterion fel tegwch yn thematig â dealltwriaeth gadarn o’r modd y gall newidiadau i un elfen o’r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (PCET) gael effaith gadarnhaol (neu negyddol) ar un arall a sut y gallai hyn gefnogi cynnydd dysgwyr.

I gymryd enghraifft o’r byd go iawn, yn 2021 enillodd Clare Palmer Wobr Sgiliau Hanfodol Bywyd yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion. Gadawodd Clare yr ysgol heb unrhyw gymwysterau a threuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa yn gweithio mewn salon trin gwallt ac fel cynorthwyydd gofal. Rhwng yr adeg pan oedd yn 14 oed a phan oedd yn 41 oed nid oedd wedi ymwneud â dysgu ffurfiol, ond aeth yn ôl i ddysgu yn y gymuned gan ymuno â dosbarthiadau mathemateg a Saesneg. Dyfalbarhaodd â’i sgiliau hanfodol ac ar ôl cwblhau Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, roedd gan Clare lawer mwy o hunan-gred. O ganlyniad, penderfynodd fynd â’i diddordeb mewn gofal gam ymhellach a gwneud cais am le mewn prifysgol er mwyn bod yn weithiwr cymdeithasol.

Dyma enghraifft o sut y gall dysgu gydol oes newid bywyd rhywun, drwy ddysgu oedolion a’r gymuned, addysg bellach ac addysg uwch. Ond mae stori Clare yn eithriad i’r rheol. Os yw Medr am gyflawni ei ddyletswydd i hybu cyfle cyfartal, mae angen i enghreifftiau fel un Clare ddod yn nodwedd fwy cyffredin yn ein tirwedd ôl-orfodol. Mae hynny’n golygu llwybrau cynnydd llawer cliriach ac ymdrechion allgymorth a hyrwyddo cryfach ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed a dysgwyr sy’n oedolion.

Bydd yn rhaid i Medr reoli dau ddyhead polisi clir. Mae’r cyntaf o bosibl yn amlwg i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r sgwrs PCET hyd yn hyn, ac yn cael ei adlewyrchu i raddau helaeth yn y dadansoddiad o’r data a ddarparwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru/Ymchwil Data Gweinyddol Cymru: anfon y rhai sy’n gadael yr ysgol ar daith bywyd wedi’u harfogi â’r sgiliau, y cymwysterau, a’r hunangred y mae arnynt ei angen er mwyn cyflawni eu potensial. Mae tystiolaeth gynyddol o anghydraddoldeb mewn mynediad a chyfranogiad mewn PCET yng Nghymru ymhlith pobl ifanc sy’n gadael ysgol ar sail ffactorau economaidd-gymdeithasol amrywiol.

Anghydraddoldeb mewn PCET yng Nghymru

Fel mae dadansoddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru/Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn dangos, mae hwn yn faes sy’n llawn anghydraddoldeb ar hyn o bryd, â nodweddion dysgwyr yn amrywio’n fawr yn ôl y mathau o gymwysterau a’r mannau lle mae’r myfyriwr yn astudio ar eu cyfer. Er enghraifft, mae’r gyfran sy’n mynd i’r chweched dosbarth yn gostwng o 43% ar gyfer y rhai sydd heb unrhyw amddifadedd i 13% ar gyfer y rhai sydd â 4 dimensiwn o amddifadedd. Mae’r gwrthwyneb yn wir am golegau Addysg Bellach lle gwelwn fwy o niferoedd yn cymryd rhan mewn AB po fwyaf o ddimensiynau o amddifadedd sydd gan ddysgwr.

Mae anghydraddoldeb mewn cyfranogiad hefyd rhwng Cymru a’r DU yn fwy cyffredinol. Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) yn cadarnhau’r heriau penodol sy’n wynebu Cymru. Canfu’r ymchwil hwn fod y gyfran o’r bobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yng Nghymru yn cynyddu (o 6% yn 2021/22 i 11% yn 2022/23), fod cyfranogiad mewn addysg uwch yn 18 oed yn is nag yng ngwledydd eraill y DU (30% o’i gymharu â 49% yn yr Alban), bod bwlch mawr rhwng bechgyn a merched sy’n cyfranogi mewn Addysg Uwch, ac mai dynion ifanc o Gymru yw’r rhai lleiaf tebygol o fynd i brifysgol (24%).

Er bod hyn yn annerbyniol nid yw’n llawer o syndod, ac mae’n debyg bod llawer o’r tueddiadau hyn yn bodoli ers tro. Y cwestiwn sy’n codi felly yw beth y gellir ei wneud ynglŷn â’r tueddiadau hyn, oherwydd mae’n amlwg nad yw cyfleoedd mewn addysg drydyddol wedi’u dosbarthu’n gyfartal ar hyn o bryd.

Fel y mae adroddiad yr EPI yn dweud, nid yw nodi ‘achos polisi’ anghydraddoldeb anghymesur canlyniadau yng Nghymru yn dasg hawdd. Ond dylai brys eu casgliadau o leiaf annog Medr i gymryd y mater o ddifri. Os ydym am fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn bydd angen edrych yn onest ar y system yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys herio effaith y degawd diwethaf o ddewisiadau cyllidebol caled ar ganlyniadau ar draws y sector ôl-orfodol, a hynny mewn ffordd adeiladol.

Addysg oedolion

Mae llai o siarad am yr ail ddyhead polisi y bydd angen i Medr ei reoli, ond mae yr un mor bwysig. Y dyhead hwn yng ngeiriau’r cyn Weinidog Addysg, Jeremy Miles, yw adeiladu Cenedl o Ail Gyfle: lle nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu. Nid ar chwarae bach y mae rhoi uchelgais mor ganmoladwy ar waith. Rydym i gyd yn gyfarwydd â hawl i addysg nes byddwn yn dod yn oedolion, ond nid yw’r hawl honno mor amlwg wrth i ni fynd yn hŷn.

Unwaith eto, mae’r ddeddfwriaeth a sefydlodd Medr yn rhoi cyfeiriad clir i’r sefydliad newydd yn y cyswllt hwn, gan fod dyletswydd i ddysgu gydol oes yn cael lle blaenllaw yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Mae adran 94 o’r ddeddfwriaeth hefyd yn gwneud sicrhau ‘cyfleusterau priodol’ ar gyfer addysg a hyfforddiant i bersonau cymwys dros 19 oed yn ddyletswydd am y tro cyntaf.

Mae hyn yn swnio fel newid bach iawn, ond yn ymarferol mae’n arwain at ganlyniadau arwyddocaol. Roedd y ddeddfwriaeth flaenorol, Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 yn rhoi’r ddyletswydd hon i ddarpariaeth 16-19 yn unig, a oedd yn golygu i bob pwrpas bod darpariaeth amser llawn mewn AB (pobl ifanc 16-19 oed at ei gilydd) yn cael gwell triniaeth pan oedd arian yn dynn o gymharu â darpariaeth ran-amser ac addysg oedolion yn y gymuned (19+). Cadarnheir hyn gan yr ystadegau cyfranogiad sy’n dangos bod niferoedd dysgu seiliedig ar waith ac AB amser llawn wedi bod yn sefydlog at ei gilydd dros y degawd diwethaf, ond bod AB rhan-amser wedi gostwng o tua 110,000 o ddysgwyr yn 2012/13 i bwynt isel o ychydig dros 42,800 yn 2020/21 cyn gwella ychydig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae patrymau tebyg i’w gweld mewn dysgu oedolion yn y gymuned â 31,427 o ddysgwyr unigryw yn 2012/13 a phwynt isel o 5,555 yn 2020/21 cyn gwella ychydig. Yn sicr mae’r pandemig wedi cael effaith ar ddifrifoldeb y pwyntiau isel, ond roedd y duedd yn mynd ar i lawr drwy’r degawd ac mae’r adferiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi mynd â ni i niferoedd dysgwyr cyn y pandemig, sy’n sylweddol is na’r lefelau ar ddechrau’r degawd diwethaf.

Mae’r newid hwn yn bwysig oherwydd nid yw anghydraddoldeb mynediad ar ôl 19 oed yn cael ei fesur na’i ddeall hanner cymaint. Pan fydd y cohort yn cynnwys y boblogaeth gyfan, mae deall y rhesymau dros ddysgu (neu beidio â dysgu), yr effaith y mae dysgu’n ei gael ar ganlyniadau unigolion a’r profiadau blaenorol sy’n llywio dymuniadau dysgu yn anodd iawn. Gwyddom o’n hymchwil blaenorol ein hunain fod y sbardun ar gyfer dysgu yn aml yn gallu bod yn gymhleth, a’i fod yn amrywio ar draws cefndiroedd economaidd-gymdeithasol a lefelau cyrhaeddiad.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi Arolwg blynyddol o Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu a all ddechrau ateb rhai o’r cwestiynau hyn. Canfu arolwg 2023 fod bron i hanner yr oedolion yn y DU wedi cymryd rhan mewn dysgu o ryw fath (49%), er bod hyn yn is yng Nghymru (41%). Yn ddiddorol iawn, mae’n ymddangos bod cyfranogiad wedi cynyddu’n sylweddol yn Lloegr, ond wedi aros yn gymharol sefydlog yn y gwledydd eraill. Yn unol â’r arolygon blaenorol, mae oedran, gradd gymdeithasol, statws yn y farchnad lafur, a’r oedran y gorffennodd yr ymatebwyr addysg amser llawn i gyd yn arwyddocaol fel rhagfynegyddion cyfranogiad mewn dysgu.

O safbwynt oedran, roedd cyfranogiad yng Nghymru yn is ym mhob cohort oedran, er bod y bwlch yn lleihau wrth i’r cohortau fynd yn hŷn, â’r bylchau mwyaf mewn cohortau oedran iau (17-19 oed lle’r oedd y bwlch rhwng Cymru a’r DU yn 15%). Mae dirywiad llawer cliriach mewn cyfranogiad fesul gradd gymdeithasol neu ‘ddosbarth’ yng Nghymru o’i gymharu â’r DU yn ei chyfanrwydd (gweler ffigur 1).

Yn y bôn, rydych yn llai tebygol o gymryd rhan mewn dysgu oedolion os ydych wedi gadael yr ysgol heb lawer o gymwysterau, os ydych ar gyrion y farchnad lafur neu mewn gwaith sgiliau isel.

Ffigur 1 – cyfranogiad mewn dysgu yn ôl gradd gymdeithasol (AB yw’r dosbarth uchaf neu ganol, C1 yw’r dosbarth canol is, C2 yw’r dosbarth gweithiol â sgiliau, DE yw dosbarth gweithiol ac incwm isel)

Goresgyn rhwystrau dysgu oedolion

Gan droi at rwystrau sy’n atal dysgu, ledled y DU mae dysgwyr yn fwyaf tebygol o nodi pwysau gwaith ac amser (24%), cost dysgu (16%), dim hyder i ddysgu (13%), methu â meddwl am brofion ac arholiadau (12%) neu deimlo eu bod yn rhy hen (12%). Er bod y canrannau wedi cynyddu, nid yw patrwm yr heriau y cyfeiriwyd atynt wedi newid llawer o’i gymharu â’r arolygon blaenorol. Yn ddiddorol iawn, cyfeiriodd cyfran uwch yng Nghymru (14% o’i gymharu â 10% yn y DU drwyddi draw) at anabledd neu afiechyd fel rhwystr sy’n atal dysgu, sy’n dangos y gorgyffwrdd â pholisi iechyd yng nghyswllt canlyniadau dysgu (a chyflogaeth).

Mae troi hyn yn gamau polisi ymarferol y gall Medr geisio eu gweithredu yn her, ond gallai gynnwys sicrhau bod darpariaeth yng Nghymru yn hyblyg er mwyn ystyried pwysau gwaith ac amser, lleihau costau dysgu, yn enwedig i’r rhai sydd mewn graddau cymdeithasol is, a sicrhau bod y dulliau dysgu yn hygyrch, yn enwedig ar lefelau is lle mae hunanhyder mewn dysgu yn is. Yn hollbwysig, mae angen ymdrech wedi’i hystyried er mwyn codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo ymhlith grwpiau sydd dan anfantais, â negeseuon cadarnhaol i fynd i’r afael â phryderon ynglŷn ag ymgysylltu â dysgu ac yn cadarnhau ei fanteision. Byddai hyn hefyd yn bwysig er mwyn helpu Medr i gyflawni ei ddyletswydd i hybu dysgu gydol oes, fel y mae gwaith blaenorol gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi dadlau.

Mae’n debyg bod rhwystrau eraill y gall Medr fynd i’r afael â hwy ar wahân i gyfyngiadau’r data yn yr Arolwg o Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu. Mae’n hollbwysig felly, wrth iddo ddatblygu ei gapasiti ei hun, bod Medr yn gallu cynhyrchu sail dystiolaeth gref ar gyfer gwneud penderfyniadau yn ymwneud â chyllid a rheoleiddio er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cyfleoedd. Rhaid iddo wedyn roi hyn ar waith yn y ffordd y mae’n comisiynu darpariaeth.

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad polisi cryf i ddysgu gydol oes ac uchelgais i greu Cymru sy’n ‘genedl o ail gyfle’. Mae adroddiadau Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn darparu sylfaen gref ar gyfer dull gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwy’n gobeithio y bydd Medr yn gweithredu’n rhagweithiol yn gynnar er mwyn symud yr agenda hon yn ei blaen.

14 Ionawr 2026

Partneriaethau Dysgu Oedolion yng Nghymru

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg i oedolion a theuluoedd, a gyflwynir mewn lleoliadau yn y gymuned i ddiwallu anghenion lleol. Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion ym mhob ardal Awdurdod Lleol ac arweinyddiaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned ym mhob Awdurdod Lleol a Sefydliad Addysg Bellach.

Darllen mwy

13 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion

Mae enwebiadau wedi agor gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2026 Caiff y gwobrau blynyddol eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a maent yn dathlu llwyddiannau eithriadol unigolion a phrosiectau cymunedol yng Nghymru sy’n dangos angerdd, ymroddiad ac egni rhagorol i’w gwella eu hunain a’u cymuned drwy ddysgu gydol oes.

Darllen mwy

1 Ionawr 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid

Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid blynyddol yn dathlu gwaith tiwtoriaid a mentoriaid wrth gefnogi dysgu gydol oes ledled Cymru. Rydym yn gwahodd enwebiadau ar ran unigolion rhagorol y mae eu hymroddiad, gwybodaeth a sgiliau addysgu wedi rhoi’r hyder i oedolion gymryd rhan mewn dysgu a thrawsnewid eu bywydau.

Darllen mwy

17 Rhagfyr 2025

Cymhelliannau, Dyheadau a Rhwystrau Dysgu Oedolion

This research was in partnership with the Learning and Work Institute Cymru to gain greater insight into adult learner experiences of further and higher education in Wales as this is largely a missing voice from the recent literature.

Darllen mwy

3 Rhagfyr 2025

Dysgu fel Teulu

Mae dysgu fel teulu yn newid bywydau. Pan fo cyfleoedd dysgu ar gyfer oedolion wedi eu cysylltu gydag addysg plant yn y teulu, dengys tystiolaeth fod hynny yn meithrin cymhelliant, hyder ac ymroddiad i ddysgu.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Sylw ar Gasnewydd – Lle o fewn lle

Mae Ufi VocTech Trust, mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, wedi cyd-lansio cynllun arloesol seiliedig ar le i integreiddio addysg a chyfleoedd datblygu sgiliau yng nghymunedau dwyrain Casnewydd.

Darllen mwy

7 Tachwedd 2025

Rhoi sylw i arwyr addysg oedolion – dathlu’r tiwtoriaid sy’n ysbrydoli, cefnogi a thrawsnewid bywydau bob dydd

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi lansio Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026, sy’n dathlu ymroddiad, angerdd ac effaith tiwtoriaid addysg oedolion ledled Cymru.

Darllen mwy

10 Hydref 2025

Paid Stopio Dysgu: Dathlu Llwyddiant yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion Eleni

Fis diwethaf roedd Abertawe yn llawn dathlu wrth i ni anrhydeddu llwyddiannau anhygoel dysgwyr sy’n oedolion yn y seremoni wobrwyo. Roedd yr ystafell yn llawn emosiwn, cynhesrwydd a straeon grymus am ddyfalbarhad a llwyddiant. Mae pob stori yn enghraifft wych o effaith dysgu gydol oes fel catalydd ar gyfer newid sy’n agor drysau, yn meithrin hyder ac yn sbarduno gwir drawsnewid.

Darllen mwy